Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXX.

CYFRO YR AUR.

Mewn gwlad newydd yr ydys beunydd yn darganvod rhyw weddau ar Natur sydd ddyeithrol i'r anghyvarwydd anwyddonol: ac wrth vod hinsawdd Tiriogaeth Chubut mor sych a di—wisg, mae esgyrnedd y bryniau a'r paith yn haws i'w gweled a'u holrain—ond yn chwith a dyeithr i'r chwiliwr o Gymru. Yr oedd yr uthredd a'r dyeithrwch ar ddechreu y Wladva yn synu, pensyvrdanu dyn "—unfurvedd di—bendraw o risiau paith graianog ysgythredd o greigiau geirwon a chlogwyni llymion : havnau a holltau auhygyrch canghenog—vel petai Natur wedi bolltio y wlad rhag archwiliad. Ond yr oedd mewn rhai o'r sevydlwyr ysva aniwall i dreiddio a gweled y wlad. Ac y mae rhyw swyn hudol mewn chwilio ac ymwthio i leoedd na bu neb o'r blaen—gan ryveddu a dyvalu ar weddau dyeithr pethau yn eu gwreiddioldeb cynhenid. Dyna'n ddiau y priv gymhellai i'r teithiau a'r anturiaethau cynhyrvus sydd wedi cadw cywreinrwydd y byd yn vyw drwy'r oesau—o ddyddiau Herodotus i amser y Cymro gwydn Wm. Griffith (Africa ac Awstralia). Hyny, GYDA chwil vawr Pizarro am AUR, drwy deg neu hagr.

Rhai oedd yn berwi o'r angerdd chwiliadol hwn oeddynt J. D. Evans, Zecaria Jones, a J. M. Thomas. Tra'r oedd y rhai hyn yn cyniwair drwy anhawsderau lawer "i edrych beth welent," yr oedd rhai o hen weithwyr aur Awstralia a Columbia oeddynt yn y Wladva yn moelio clustiau pan ddaeth si vod llwch melyn a gronynau wedi eu cael yn yr avon Chupat. Un o hen eurwyr Awstralia oedd W. Richards, sir Vôn, a ddigwyddai un tymor vod yn cyd—hau gydag Edwyn Roberts— un a vreuddwydiasai lawer am yr Andes (o syml ramantedd ei veddwl, ac nid o ysva aur). Wedi i'r ddau hyn daro tân o'u gilydd, asiodd gyda hwy 5 neu 6 eraill: ac yn 1890 llwythasant eu mèni o luniaeth a rheidiau, gan anelu i'r berveddwlad anhysbys iddynt hwy, ac heb fordd mèn yn yr holl gyrau. Ac ymaith a hwy. Yr oedd llwybrau Indiaid yma ac acw, ond ni wyddai y teithwyr vawr am danynt: ond peth anhygoelach vyth oedd medru myned a meni ar hyd ddynt, nes dod at odreuon cyntav yr Andes. Buont i fwrdd 5 neu 6 mis, a phe cawsid adroddiad o'r daith hono diau y darllenasai vel "trek" y Boeriaid tua'r Transval. Wedi dychwelyd yn groeniach, a chael" tacnot" y Llywodraeth ar y manau welsent, dechreuodd y sibrwd gerdded y Wladva vod "AUR wedi ei gael!" ac o vesur ychydig chwyddodd yn ddychmygus i vod yn El Dorado.