Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/183

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Danvonodd y darganvyddwyr y newydd i Gymru, a daeth allan atynt yn vuan ddau wr cyvarwydd mewn mwnydda—sev D. Richards, Harlech, a R. Roberts, New York. Yn y cyvamser holid y darganvyddwyr gan bobl y lle am eu cafaeliad o'r mwn melyn, nes yn y man enyn yn eu gilydd y dwymyn aur arverol: ac ymaith a bagad o'r rhai parotav, mewn mèni ac ar gefylau, i wneud y rhuthr wangcus am ran o'r yspail—ac ymaith a'r "vintai ysgubol" (flying gang) helter scelter ar draws eu gilydd, dros beithiau a bryniau, drwy havnau a rhiwiau, a rhydiau a chreigiau, nes cyraedd i Teca—"eu mynyddoedd hyvryd —ac adrev yn ol dipyn aravach. Mae y wib hono yn vabinogi Wladvaol er's blyneddau—vel mwysair Ceiriog, "Mynd i dy Kit vy chwaer i dê, a chael dim." Eithr parhaodd llawer i chwilio, a thyllu, a golchi, dros y wlad y fordd hono amser hir. Wedi i'r ddau vwnwr weled y wlad drostynt eu hunain, a threvnu telerau gyda'r darganvyddwyr, aeth D. Richards yn ol i Gymru i wneuthur adroddiad. Yr oedd hyder Edwyn Roberts mor gryv yn ei ddarganvyddiad vel y gwerthodd ei ferm (am £2,000), ac yr aeth ev a'i deulu i Gymru, i wthio yr anturiaeth gyda D. Richards. Drwyddynt hwy ill dau, a chymorth yr A.S. dros vwrdeisdrevi Arvon, furviwyd y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate" yn Llundain, i weithio y gwaddodion a'r wythien. Daeth D. Richards yn ol i vod yn arolygwr y gwaith, a Reid Roberts, o Gwynvynydd (Dolgellau), gydag ev, ac eraill, ac hevyd wyddonwr cyvarwydd (expert) o'r enw Hoefer. O ddifyg deall y wlad a'r anhawsderau, oedwyd a bwnglerwyd gryn lawer, mae'n debyg: ond gwaeth na hyny, aeth yn anghydweled rhwng y darganvyddwyr a'r cwmni, vel y bu raid danvon W. J. Parry, Coetmor, yr holl fordd i'r Wladva (nid i Teca), i geisio heddychu—eithr methodd. Ac wedi llawer o giprys aeth y peth rhwng y cŵn a'r brain. Dywedir vod y Syndicate wedi colli cryn £13,000 ar yr antur. Bydd ambell un o gymdogion y Teca yn taro ati i olchi yno pan vydd angen gwrach arnynt a gwnaed yno ambell hwb go vilain gan Wladvawyr 'garw am dani." Hwyrach vod y nodyn canlynol gystal ag adroddiad am yr anturiaeth, vel yr ystyrid hi gan yr arolygwr cyn "dyvod y dyddiau blin."

Chubut, Chwev. 17, 1892.

. . . . .Wedi croesi dyfryn tlws y Teca gwersyllasom am rai wythnosau ar aberoedd a chyfiniau yr avon hono, i'r perwyl o gyd—ddeall a chyd—weithio gyda'r darganfyddwyr o berthynas i oludedd y gwaddodion, a gwelsom yn vuan yn y graian arwyddion da o aur. Yna chwiliasom yn vrysiog yr uchbaith cylchynol, a thorasom amryw draws—gloddiau a phydewau. Furvir yr ucheldir hwn o amryw haenau—tosca,