Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/186

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heblaw yr ymgyrchoedd uchod, bu chwilena a thyllu a golchi lawer tua Llyn Fontana, a thrachevn tua'r Corcovado. Glynodd rhai Cymry tua Teca—rai yn golchi gwaddodion, ac eraill yn cloddio am yr wythïen euraidd o'r graig: a gwnaed ohonynt gwmni i'w novio yn Llundain ac yn Buenos Ayres.

Er's blyneddau lawer golchasai Zecaria Jones a J. D. Evans yn yr avon Camwy (Chubut) am aur, ynghyfiniau y Wladva, a phan oedd y milwyr yn ymlid y brodorion yn 1880, cavwyd argoelion golygus yn y ceunant mawr sydd yn d'od i'r Camwy o gyfiniau Kytsácl.

XXXI.

CREVYDD, ADDYSG, A LLEN Y WLADVA.

Vel syniad Cymreig Cenedlaethol, ar ol diwygiadau mawrion y ddeunawved ganriv, yr oedd y Wladva yn rhwym o vod yn Grevyddol. Nodweddid trwyadledd crevyddolder di—hoced sylvaenydd y mudiad—M. D. Jones—vel yn sicrhau yr un llinelliad yn yr olyniaeth Wladvaol, gan nad pa weddau neu raniadau gymerai arni ei hun maes law. Wrth ymgyraedd at ymreolaeth wladol, leodrol, nis gellid gobeithio hyny ond drwy ddyvnhau a grymuso yr anwyledd crevyddol sydd yn arbenigo y bobl ragor y cylchynion. Yn y wedd hono nid oedd enwadaeth arverol Cymru onid lleodru y devion crevyddol yn ol graddva yr alw a'r cyvleusderau. Velly, o'r cychwyn cyntav ni vu culni sectol o nemawr lestair i'r Wladva: daeth enwadaeth yn wahanredol yn y man, eithr nid yn fyrnig nac yn chwerw vyth. Yr oedd ymhlith y dyvudwyr cyntav rai arddelent gysylltiad â'r amrywiol raniadau crevyddol cyfredin—Anibynwyr, Methodistiaid, Wesleyaid, Bedyddwyr, Eglwyswyr, ond ni pharai hyny ymraniad, oddieithr o anghydnawsedd personol. Pan ddaeth dyvudwyr 1874, deuai yn eu plith bedwar o weinidogion berthynent i'r Anibynwyr—ac Anibynwr anibynol oedd M. D. Jones —ond ni theimlid dim gwahanvur. Wedi y dyliviad mawr o 1875 i 1880 hwyrach y parai chwithdod y bywyd i'r newyddddyvodiaid syrthio yn ol ar eu hen gynevin raniadau, ac velly yn arav vach ymddidol yn ol yr hen gorlanau: eithr, o'r tu arall, yr oedd eu bywyd newydd yn creu cysylltiadau newydd, tra hevyd mai elven vawr yn eu clybiaeth oedd lleoliad y fermi syrthiai i'w rhan. Gyda hyny eto rhaid covio vod yr hen draddodiad bychanigyn o Dde a Gogledd Cymru yn dylanwadu peth ar yr ymweithiad furviodd y Wladva. Pe na wnaethai y