Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/187

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wladva ddim ond lledu ein Cymreigedd i vod yn anrhaethol hwnt i hwntw a northman, yr oedd hyny yn iechyd cenedlaethol, beblaw ysgavnu y finiau enwadol. Mae'n debyg vod Cymry yr Unol Daleithau yn llawn ymwybodol o hyn, ac mai dyna un eglurhad ar gatholigedd eu hysbryd hwythau. Wrth vod Anibynwyr luosocav yn y De, a Methodistiaid yn y Gogledd, a'r ddwy frwd ddyvudol yn cyvuno i furvio y Wladva, daeth cydbwysedd crevydda y lle yn elven o loewedd ac ymdoddiad deallus, y byddai dda i Dde a Gogledd Cymru wrth uruchwyliaeth gyfelyb. Yr oedd y capel cyfredin cyntav yn un bychan a salw ddigon: a phan aethpwyd i wella ar hwnw (pan ddaethai dyvudwyr) yr oedd yn nodweddiadol iawn o'r Wladva mai codi ysgoldy dyddiol wnaed gyda'r brics vwriadwyd i godi capel, ac yna ddevnyddio hwnw yn gapel, nes y codwyd capel Anibynwyr yn Nhrerawson.

Pan gynyddodd y Bedyddwyr yn y Wladva, yr oedd eu daliadau arbenig hwy yn pwysleisio eu neillduaeth, ac velly nid hir y buont cyn cael capel cryno o'r eiddynt eu hunain—a chladdva gerllaw— o barhad eu traddodiad enwadol yn Nghymru na chaniatai cyvraith iddynt hwy gyd—gladdu gyda'r lluaws. Hwnw—y Vron—deg—yw yr unig dy cwrdd Bedyddwyr sydd weithian yn y Wladva. Mae yn y Bryn—crwn ar waelod y dyfryn uchav luaws o Vedyddwyr aiddgar, ond yn cyvuno i addoli gyda'r gynulleidva gymysg sydd yno, weithian wedi codi adail newydd gryno— i vod hevyd yn ysgoldy dyddiol at wasanaeth ysgol y Ilywodraeth: engraift arall o'r cyd—oddeviad gwladvaol.

Oddiar yr un ysprydiaeth goddevus y mae hevyd ddau neu drio dai cyrddau eraill arddelir vel rhai anenwadol," ac a ddevnyddir hevyd weithian yn ysgoldai dyddiol at wasanaeth trevniant y Llywodraeth o addysg. Y mae hevyd ddau dy cwrdd yn yr ardal elwir Tir Halen, ar du deheuol yr avon—y lleill oll ar du gogleddol yr avon.

Dynodir y gweddill o'r capeli vel yn perthyn i naill ai yr Anibynwyr neu y Methodistiaid—pump neu chwech o bob un: eithr nid oes ond un gweinidog gan y Methodistiaid, tra y mae i'r Anibynwyr chwech neu saith. Ar gyver yr anwastadrwydd rhiv yna, ni cheir un anhawsder, o ran enwadaeth, i vanteisio ar wasanaeth y gweinidogion Annibynol yn y tai cyrddau eraill.

Y mae i'r Esgobwyr Prydeinig hevyd ddwy eglwys yn y Wladva—y naill yn y Dyfryn Uchav, a'r llall yn Nhrelew. Edwyn Roberts, yn ei aidd Gymreig dros yr hen Eglwys Brydeinig, vedrodd gael gan Eglwyswyr Cymru deimlo dawr yn y syniad o gael llan yn y Wladva, a danvon clerigwr (H. Davies) yno i gychwyn yr achos, bymtheg neu ugain mlynedd yn ol— ac o hyny y daeth Llanddewi, drwy achles y Canon Thomas (o Gaergybi yn awr, ond St. Anne's gynt). Yr oedd y llan hono