Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/188

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor anghysbell i Edwyn Roberts a'i deulu, vel pan ddaethant hwy yn ol i Gymru, a chyfro yr aur yn ei anterth, medrodd eve a'r Canon Thomas ddanvon clerigwr arall (D. G. Davies) i gychwyn eglwys yn y man canolog Trelew. Buasai y clerigwr hwnw yn gwasanaethu yn eglwysig tua Canada a'r U. Daleithau, a gwyddai velly beth oedd gwlad newydd: ac i ychwanegu ei ddevnyddioldeb, pan ddychwelodd i Gymru, bu dalm o amser yn evrydu ac arver meddygaeth, vel y mae ei wasanaeth yn y cyveiriad hwnw yn gafaeliad mawr i'r Wladva. Cododd adail gryno a golygus yn Nhrelew: a bu esgob y Falklands yn ei chysegru tuag 1897.

Am y Babaeth dywed Cyvansoddiad y Weriniaeth (gyda gwersi yr Iesuitiaeth yn Paraguay), mai y grevydd Babaidd yw crevydd y wlad: ond nid oes gysylltiad cyvreithiol rhwng yr eglwys hono a'r wladwriaeth: telir o bwrs y wlad hyn—a—hyn y vlwyddyn i'r esgobion a'u glwysgor, a chyvrana y Llywodraeth ddognau at godi eglwysi ac adeiladau elusenol man y bernir eu heisieu. Ond o draddodiad a devosiwn y mae llawer o oludogion y wlad (yn neillduol y bonesau) yn hael iawn o'u cynorthwyon i'r ofeiriadaeth. Elusen, vel y gwyddis, yw hanvod y grevydd babaidd: mae gan yr urddau crevyddol (yn neillduol yn yr hen daleithau canol) lawer o eglwysi ac adeiladau: nid yw treuliau oferenu yn vawr iawn: ac nid yw y bobl yn gyfredin yn govalu ond y nesav peth i ddim am grevydda o vath yn y byd—oddigerth y rhai coelus a thra devodol. Eithr y mae hevyd lawer o wyr blaenav y Weriniaeth yn babyddol iawn, ac yn ystyried eu crevydda yn ddyledswydd wladol yn gystal ag yn ddyledswydd ddevosiynol, a chan hyny nad yw drais yn eu hystyriaeth hwy i ddevnyddio savle swyddol a chymdeithasol i hyrwyddo pabyddiaeth vel crevydd y wlad.

Oddiar ryw ystyriaethau vel yna, mae'n debyg, y gwesgir pabyddiaeth i sylw yn y Wladva weithiau, heb raid dyvalu obeutu cudd weithrediadau "Jesuitaidd" nac arall. Nid oes nemawr amser er pan roddodd teulu Gwyddelig—Arianin goludog allor a delw ddrudvawr i eglwys babaidd Trerawson, pan oedd y Canon Vivaldi (a vedrai Saesneg yn dda) yn ofeiriad yno. Mae y rhaglaw presenol wedi cael gan y Llywodraeth gyvranu yn hael at eangu a harddu yr eglwys sydd yno: a chyda hyny godi adeiladau eang vel math o ysgoldai a lleiandai. Heblaw hyny codasai Vivaldi eglwys babaidd olygus ar y van adwaenir vel Rhyd—yrr—Indiaid——tua haner y fordd o'r Wladva i'r Andes: a dywedir yn awr vod y rhaglaw yn codi eglwys babaidd arall ar gwr Bro Hydrev—yn vwyav neillduol, meddir, ar gyver yr Indiaid a'r Chiliaid sydd yn gweithio i bobl Bro Hydrev, Fo-fo-cawel, a'r cyfiniau gwasgarog oddi yno hyd Teca.