Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/189

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADDYSG AC YSGOLION.

Cyveiriwyd at yr ymdrechion wnelai y Wladva o dro i dro ymhlaid ADDYSG y lle. Y gogwydd cyntav wnaeth y Llywodraeth tuagat hyny oedd penodi Elaig yn athraw ir Glyn—du, ac iddo gyvlunio gwerslyvr Cymraeg—Hispaenaeg. Tua'r adeg hono, neu cyn, yr oedd yr Arlywydd Sarmiento (vuasai yn yr Unol Daleithau) wedi cael oddiyro niver dda o athrawesi colegol i hyforddi athrawesi ac athrawon y Weriniaeth yn y cynlluniau a'r ddysgyblaeth Amerigaidd. Cyn hir digwyddodd i athrawes o Gymraes dd'od i gysylltiad â'r rheiny, a phan glavychodd o'r cryd a'r mwyth yn Catamarca, danvonwyd hi gan y Llywodraeth i roddi y Wladva ar ben y fordd yn athrawaidd (Miss Annie Jones, y pryd hwnw, Mrs. E. M. Morgan wedi hyny). Ymhen yspaid wedi hyny cynorthwyai y Llywodraeth yn ddysbeidiol hwn a'r llall, vel y cefid dylanwad i gael swydd athraw. Tua'r adeg y rhanwyd y lleodraeth yn ddwy ranbarth, gwnaeth Gaiman ymdrech lew i sevydlu ysgolion yn lleodrol, gan drethu yn gynorthwyol at hyny, vel y caniatai'r cyllid. Cododd Cyngor y rhanbarth hono lŷsdy ac ysgoldy cyvunol yn Gaiman—un aden yn gynghordy ac ynadva, a'r rhan arall yn ysgoldy dyddiol. Cynaliodd yr ardalwyr hevyd yr ysgolion yn Maes—teg. Cevn—hir, Bryn—gwyn, a Bryn—crwn am rai blyneddau ar eu traul eu hunain.

Cyn y defroad parthed addysg drwy y Weriniaeth oll, ymrwyvai y Wladva oreu medrai i gadw ei phlant yn llythrenog bid vyno: a cheir uchod vras grynodeb o'r ymdrechion hyny. Yr oedd merch iengav L. J. (Eluned Morgan) newydd ddychwelyd adrev o'i hysgol yn Nolgellau a Llundain, ac yn vawr ei hawydd i hybu a gloewi addysg genethod y Wladva. I'r perwyl hwnw codwyd adail bwrpasol yn Nhrelew, a'i dodrenvu yn addysgol at letya y genethod yn weddaidd ac yn iachus. Wedi dwy vlynedd a haner o brawv, a gweled vod cynllun mawr y Llywodraeth eisoes yn tavlu blaen ei gysgod dros yr addysg: ac iechyd un o'r athrawesi (Mair Griffith) yn dirywio, barnwyd yn ddoeth roi yr ymgais hono i vynu.

Yr oedd un o gyn—athrawon y Wladva (Tomas Puw, o Landdervel), wedi ymddyrchavu i vod yn Brofeswr yn y Coleg Athrawol, Paraná, ac wedi bod yno rai blyneddau, a chael cyvle i gychwyn tri o vechgyn eraill y Wladva ar eu gyrva addysgawl genedlaethol, ymdynodd yn ol at ei hen gysylltiadau yn y Wladva: eisoes yr oedd gwaedd yn y sevydliad am ysgol uwchradd, ac achubwyd y cyvleusdra i sicrhau gwasanaeth y Profeswr Puw at hyny yn y Gaiman.

Yn y blyneddoedd hyny (189-2) parasai y defroad am addysg gyfredinol gychwynasai Sarmiento, i'r Cyngres ddeddvu trevniant eang o ysgolion ac addysg dros yr holl Weriniaeth.