Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwladychu gyda'u gilydd, ac yn dewis myned i'r gorllewin, yr wyv wedi golygu tyddyn o dir ar yr avon Ohio a'r avon Big Miami, o gylch lat. 38, man y mae lle i gael 200,000 o erwau, heb un erw ddrwg ynddynt o bosibl."

Mae'n debyg mai rhan o'r ymgais hono oedd yr hyn y cyveirir ato yn y Cambrian Register am 1796, vel isod, ac mai yr un oedd y J. Morgan Rees a'r Morgan Ioan Rhys y cyhoeddwr, ac a aeth wedi hyny i Ohio.

Mae niver o voneddwyr yn Philadelphia wedi ymfurvio yn gwmni, dan yr enw Cambrian Co., i lunio sefydliad o Gymry, yn y man addasav ellir gael am iechyd, amaethu, gweithiau, a masnach yn yr Unol Daleithau. Penau y telerau ydynt : (1) Pob rhanddalwr dalu i lawr $100 cyn Tachwedd 1, 1796; (2) Pump o bwyllgor i'w neillduo i brynu a threvnu y sevydliad; (3) Cwmwd o bum milldir sgwar i'w ddewis, rhanedig yn lotiau mewn a lotiau allan, a dim rhagor na 50 o lotiau i'w rhoi i greftwyr ac ysgrivwyr; y lotiau eraill i'w gwerthu ar adegau penodol, a'r cynyrch i vyned at y cyllid cyfredin, adeiladau cyhoeddus, &c.; (4) yr holl gwmwd i'w ddyranu yn rhandiroedd 640 erwau yr un, a bwrw coelbren rhwng y rhanddalwyr pwy vydd pïau pob rhandir; (5) Nas gall neb ddal rhagor na phedwar rhandir, na mwy nag ugain lot yn y drev,

Yn vuan wedi hyny dylivodd y Cymry i'r Unol Daleithau, gan vyned wysg eu trwynau, vel y byddai carenydd neu amgylchiadau yn eu harwain——yn arbenig i ardaloedd Steuben, Utica, Oneida, Ebensburg, Newark, Granville, a thoc i Cincinatti a Welsh Hills, Ohio. O 1830 i 1840 heidient i Wisconsin, Illinois, Iowa, a Minnesota; ac o 1860 i 1870 i Missouri, Kansas, Nebraska; ac yn ddiweddarach i Dakota, Montana, Oregon, a Washington Territory. Cyvrivir vod o'r sevydliadau Cymreig hyn yn Amerig dros 20 yn New York, 50 yn Pennsylvania, 40 yn Ohio, 25 yn Wisconsin, 5 yn Minnesota, 20 yn Iowa, 5 yn Illinois, 9 yn Missouri, 10 yn Kansas, 4 yn Nebraska, a sevydliadau gwasgarog drwy amryw daleithau ereill.

[Gwel "The Welsh in America," gan Huwco Meirion; ac "America" W. D. Davies, goruchwyliwr y Drych.]

Gellir yn hawdd ddyvalu vod y crug envawr hwn o Gymry, gyda'r cylchynion a dylanwadau cymysg oedd arnynt, yn ymdoddi a newid yn aml a dirvawr. Ebe W. D. D. am Gymry Utica:—"Mae gan y T. C. 26 o eglwysi yn y dalaeth, ond vod llawer ohonynt yn wan iawn, gan vod yr hen Gymry yn marw, a'r plant yn Americaneiddio, yn_ymvudo," &c. Drachevn : “ Rhiva eglwysi yr Anibynwyr yn Pennsylvania 50, ond vod rhai ohonynt wedi troi yn Saesneg": a'r un nodiad am Ohio.