Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/191

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn gadeirydd i'r Cyngor Addysg hwnw penodwyd Dr. B. Zorilla (ddaeth wedi hyny yn briv-weinidog), yr hwn a ymroddodd yn ddyval, yn erbyn llawer o ddivaterwch a gwrthwynebiadau rhagvarn Babyddol, a phrinder arian, i weithio allan y gyvundrevn yn egniol a goleuedig. Erbyn hyn y mae'r trevniant addysg yn lled gyvlawn a gweithiadwy, yn enwedig yn y brivddinas a priv-ddinasoedd y taleithau—addysg rydd-rad i bawb, a phob celvi ysgol; colegau i athrawon ac athrawesi, arolygwyr ysgolion; athroveydd; a thâl lled dda i'r oll sydd yn dal swyddi – ond vod y taliad ar ol yr amser visoedd weithiau, yn enwedig yn y manau anghysbell, yr hyn sydd yn mènu llawer ar yr efeithiolrwydd. Gwaria y Llywodraeth ar y trevniant yn awr o dair i bedair miliwn o ddoleri yn vlyneddol (dyweder £300,000). Priv fynonell y cyllid i hyny yw rhan o'r dreth dir uniongyrchol drwy y Weriniaeth oll. Adeiladau harddav y briv-ddinas yw yr ysgolion a'r colegau athrawol — ac velly lawer yn y taleithau hevyd. Yn ol y trevniant hwnw y mae bellach ddwsin o'r ysgolion elvenol hyn yn y Wladva —Tir-halen, Maesteg, Bryn-crwn, Gaiman, Bryn-gwyn, Drova-dulog, Tre-orci, Trelew, Pont-hendre, Tŷ-gwyn, Rawson. Rhoddir y figyrau canlynol am yr ysgolion yn ol adroddiad y Rhaglawiaeth: 12 o ysgolion cyhoeddus ar draul o $20,000 y vlwyddyn, dyweder $130 y mis yr un: a $7170 y vlwyddyn i dair ysgol wladol eraill. Cyvrivir 518 yn yr ysgolion hyn, eithr 268 yn gyson. Cwynir yn aml rhag anghysondeb y plant. Yr unig draferth yn awr yw yr anhawsder ieithol—megys ag yn Nghymru. Mae cyvundrevn addysg y Weriniaeth yn yr Hispaenaeg – iaith y wlad. Ond y mae miloedd lawer o Italiaid yn y wlad, vel y clywir Italaeg agos mor amled a Hispaenaeg ar yr heolydd: mewn cyrion eraill llevarir Almaenaeg yn iaith gyfredin y bobl — Swisiaid Santa Fe, a Rwsiaid Hinojo ac Entre Rios yn benav. Ceir, hwyrach, amgyfred llawnach o'r sevyllva ieithol hon drwy grybwyll vod yn y briv-ddinas newydduron dyddiol (dau neu dri bob un) yn Italaeg, Almaenaeg, Francaeg, Saesnaeg. Nodwedd arall i'w gadw mewn cov yw mai iaith twrneiaeth a gwleidyddiaeth yw Hispaenaeg, ond wrth gwrs y termau gwyddonol a chreftol cyfredinol wedi eu cyvieithu yn benav o'r Francaeg, ac y mae gan evrydwyr ac ysgolheigion yn gyfredin grap ar yr iaith hono. Iaith masnach y byd yn benav yw y Saesnaeg: ond llenyddiaeth y byd mor gyfredin i'r Francaeg a'r Almaenaeg ag iddi hithau. Yn awr yn y gymysgva ieithol yna bydd raid i addysg y Wladva vyned drwy yr un eangiad a phuredigaeth a'r Gymraeg yn Nghymru. Mae rheolaeth addysg y Weriniaeth yn awr yn nwylaw pobl oleuedig, ryddvrydig—yn llawn deimlo yr anhawsderau ieithol: ond o'r tu arall, y mae cenedlaetholdeb ivangc y genedl yn angerddol weithiau, a'r dylanwad pabaidd (vel yn Mhrydain) yn eravangu am le