Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/192

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

penelin. Yn yr ymdreiglva hon y mae devion crevyddol y Wladva, a chyvarwydd—deb y bobl gyda iaith a llenyddiaeth a syniadau Prydeinig, yn rhwym o vod yn elvenau o ddadblygiant nerthol y dyvodol—megys y mae yn ei anterth yn Nghymru yn awr.



LLEN A DIWYLLIANT.

Bywyd gwledig, ve welir, yw bywyd y Wladva—tri pentrev, a'r gweddill yn fermi 240 erw ar hyd arwynebedd o 50 milldir. Amaethu y tir a'i ddyvrhau, a'r gorchwylion gydag aniveiliaid, yw gwaith mawr y bobl wledig yno. Achlysura y gwasgaredd hwnw gryn dramwy, a chan vod cefylau a cherbydau yn rhad ac aml mae cryn gyniwair a chyrchu. Y pentrevi yw Trerawson, Trelew, a Gaiman: y vlaenav yw eisteddle y rhaglawiaeth, a chynullva y swyddogaeth a'r cysylltiadau Italaidd a chymysg eraill. Diwylliant lle cymysg a swyddol velly yn benav yw divyrion y cafes, cardiau, a billiard. Mae gan yr Italiaid glwb cyd—gyveillus yno, a byddant yn dathlu eu gwyliau yn vrwd: ar drichanmlwydd Columbus codasant govgolovn i'r arwr hwnw ar gemaes Gaiman. Yr oedd Dr. Reale yn llenor, heblaw yn Varnwr Cyvraith y lle, ac o'i ddeutu ev furviwyd clwb cyweithas ar ei enw, vel cynullvan i'r rhai coeth a thrwsiadus. Anaml y mae meddwi (Seisnig) yn brovedigaeth yno, oddigerth i'r dosbarrh isav: cryn ddiota neu lymeitian, ond llawer o'r diodydd hyny yn velus neu win main. Mae yn Rawson rai Cymry blaenllaw ynghanol yr elvenau cymysg hyn: a dau gapel at eu gwasanaeth Cymraeg.

Ryw ddwy neu dair milldir uwchlaw Rawson y mae capel Tair—helygen ac ysgol Ty—gwyn. Ac oddiyno ar i vynu'r dyfryn, o bob tu i'r avon y mae'r diwylliant arverol Cymreig yn oruchav o fynianus, ac yn gwbl debyg i ardal wledig yn Nghymru—cyrddau llenyddol, cyrddau canu, cyrddau ysgol Sul, eisteddvodau," Gwyl Dewi, Gwyl y Glaniad, Gwyl Galan, &c. Yn y pentrevi y mae llyvrdai, a darllenva neu ddwy, a cheidw y maeldai hevyd gelvi ysgol ac ysgriven. Nid yw y Cwlt Gewynau sydd yn Nghymru yn brovedigaeth i'r Wladva: ac hwyrach mai "garw" o ran ymddangosiad y bernid canlyniad y bywyd di-bryder sydd ar y bobl. Eithr yn warchodaeth rhag gormod rhusedd y fordd hono y mae cwrteisrwydd a thrwsiadedd Buenos Ayres yn gadwraeth o ddiwylliad lled ddiogel — taw y mae hono yn ddinas vawr, vywiog, a'i dylanwad yn treiddio dros y Weriniaeth oll, vel Paris dros Fraingc. Mae hyvedredd y plant a phobl ieuaingc y Wladva mewn dwy ncu dair o ieithoedd yn loewedd ynddo'i hun, heb vod tuedd yn hyny i'w hunanoli ragor Saeson uniaith oll-ddigonol.