Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/193

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddiwedd 1893 daeth alw Wladvaol i L. J. vyned i Buenos Ayres, a gadael rhwng ei verch (Eluned Morgan) â pharhau i gyhoeddi y Dravod: a hyny a wnaeth hi am rai misoedd—ei olygu a'i gysodi, gyda chymorth prentis. Ond gan vod iechyd L. J. yn vregus, a'r baich yn ormod i'w verch, trevnwyd i bwyllgor o rai blaenllaw y lle barhau y cyhoeddi ar eu cyvrivoldeb eu hunain. Blinwyd ar hyny drachevn ond wedi bod yspaid heb yr un cyvrwng, furviwyd "cymdeithas argrafu," i brynu'r swyddva a'r wasg, ac adnewyddu yr anturiaeth. Dewiswyd A. Mathews yn olygydd, o dan drevniant bwrdd y wasg, ac eve sydd bellach er's dwy vlynedd yn cario'r gwaith ymlaen, gyda'r argrafydd ddaethai allan at y gorchwyl yn 1890: a chydag E. J. Williams (Mostyn), yn gevn i'r holl ymgymeraeth. Y llynedd eangwyd peth ar y newyddur, ond y mae eto'n rhy vach i vcd yn ddyddorol i bawb. Yn yr un pentrev (Trelew) ag y cyhoeddir y Dravod, y mae dau lyvrwerthwr yn gwneud cryn vusnes o werthu newydduron a grealon Cymru a Lloegr. Mae Cwmni y Rheilfordd yn rhoddi ystavell a llyvrau i ddarllen yno hevyd yn ddi-dâl.

I geisio cadarnhau ac eangu y Diwylliant hwn, cychwynodd L. J.

Y DRAVOD,

"Newyddur wythnosol y Wladva," ac y daeth ag argrafydd gydag ev i hyny pan ddychwelai o Gymru yn 1889. Wele yr anerchiad cyntav i egluro'r amcan:—

"Wrth gychwyn y newyddur cyntav hwn yn y Wladva, yr ydys yn teimlo dipyn yn bryderus ar iddo wasanaethu yn deilwng y neges o wareiddio a choethi sydd yn arbenig waith y wasg. Nid ydys yn gallu gobeithio y bydd iddo voddio pawb, na gwneud pob peth ar unwaith. Cyvyng, gymharol, vydd ei gylchrediad, vel ei ovod, o reidrwydd; eithr oblegid hyny, ac arbenigrwydd y Wladva, llawn neillduolion gwladol, anhawdd vydd cadw y dravodaeth yn ddigon amrywiol, yn ddigon eglur, ac yn ddigon pwyllus. Eithr penav amcan y DRAVOD Vydd gwasgar dylanwad darllen a meddylio drwy ein cymdeithasiad wladvaol hon. O ddifyg cyvleusdra cymundeb â'r byd, teimlo yr ydys er's blyneddau vod perygl i ni geulo ar ein sorod, heb hogi ein gilydd, a gloewi wynebau ein cyveillion; ac yn enwedig vod ein pobl ieuaingc heb gyvleusdra gwybod na thravod, tra yn agored i lawer o ddylanwadau mall ac anghoeth. Diau hevyd y bydd ein materion gwleidyddol yn galw am aml dravodaeth, yn yr hyn y mae llawer o waith dysgu ar ein pobl—nid yn unig ein gwleidyddiaeth vel rhan o'r Weriniaeth, eithr hevyd amrywiol weddau ein gwleidyddiaeth leol—yn lleodrol, gwmnïol, a mas-