Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/194

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nachol. Ond ymhob peth yr ydys am ymdrechu cadw y dravodaeth yn goeth a didramgwydd. Yn y byw rhydd, diovn, sydd arnom yn y Wladva, provedigaeth ein pobl yw arver iaith grev, dramgwyddus, wrth dravod materion cyhoeddus. Covied ein gohebwyr hynyna: boed iddynt govio hevyd mai bychan vydd ein govod, ac velly mai byr ac í bwrpas ddylai yr ohebiaeth vod."

Rhoddir y dyvynion canlynol o rai ysgrivau ymddangosent yn y Dravod vel engreiftiau o'r ymgais hono i ddevnyddio y wasg yn voddion mawr diwylliant y Wladva: a chan eu bod hevyd yn cyveirio at amrywiol weddau y mudiad a sevyllva y wladva o dro i dro, cynorthwyant y darllenydd, ysgatvydd, i ddilyn y sevyllva yn well na dim eglurhadau eraill:



Y CREDO GWLADVAOL.

"Mae y Wladva wedi bodoli ddigon o hyd yn awr i weled yn hamddenol rawd canlyniad amryw o'r mân vudiadau oddiyma, ac mewn sevyllva ddigon urddasol i beidio gogan am vethiantau a govidiau y rhai a vynasant frwyth eu fordd eu hunain, nac i genvigenu am unrhyw lwydd bydol ddigwyddodd i ran neb mewn manau eraill.

Ond O! na aller argrafu ar veddyliau rhai yn anesmwytho, beth yw banau y CREDO GWLADVAOL:—gwella'r vywoliaeth, plus cadw ein cymdeithasiad Cymreig. Ysywaeth y mae ymvudwyr Cymreig wedi bod drwy gymaint gwasgva byw, cyn cael eu gwthio dros erchwyn eu hen wlad, vel y mae manau tyner mwyniant a chysur wedi myned yn bwl a diymadverth ynddynt. Gweithiant yn ddivevl, bywiant yn galed ddigon, hunan—ymwadant ac aberthant yn ddiddig: eithr oll i'r amcan o vod heb arnynt yr un geiniog i neb," a chael "tipyn wrth gevn amgen na rhywun arall sydd yn wrthrych cenvigen. Yn awr nid oedd raid d'od i eithavoedd De Amerig i'r nodweddion uchod gael cyvleusdra llawn rhwyddach i dderbyn eu gwobr o werth ac arian; ac nid oes amheuaeth nad oes ambell un yn yr amrywiol vân heidiau godasant oddiyma, wedi llwyddo yn lew yn y peth hwnw—a rhwydd Duw iddynt. Eithr y mae Bodolaeth y Wladva yn golygu rhywbeth tu draw i hyny; a gobeithiwn vod erbyn hyn laweroedd o deuluoedd ar y Camwy wedi deall beth oedd y Weledigaeth yn ymarverol sylvaenodd y Wladva; ac y byddant bellach vyw i ddangos i'r rhai yn ymladd, vel y buont hwythau, â mân draferthion y cylch cyntav o sicrhau bywoliaeth, y sut i veddianu eu heneidiau mewn amynedd, er mwyn anwyledd y cymdeithasiad Cymreig sydd mor velus wedi y vrwydr gyntav hon, ac sydd hevyd, weithian, wedi gwreiddio a lledu yn Nhiriogaeth y Camwy, vel nad oes ei haval yn yr holl vyd vel Derbynva i Gymry."