Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon





CYWEITHAS.

"Berw gwleidyddol mawr yr Almaen a Frainc yw cyweithasiad (socialism). O ran hyny, y mae hyn hevyd lon'd yr awyrgylch yn Lloegr a'r Unol Daleithau: y bobl, werin—y traethau noethlwm o ronynau tywodog—yn ceisio codi eu penau uwchlaw y dwr, i vod yn dir tyvu a frwythloni: ac i ddilyn y fugyr, cyvala a hen vuddianau, vel gwarchgloddiau cedyrn yn cael eu gweithio ar draws y traethau i'w hysgubo ymaith gan li amgylchiadau ac angenoctyd. Gwedd vasnachol y cyweithasiad hwn yw cydvaelio: ei wedd wleidyddol yw cyd—vuddio, cydvodoli, cyd-raddio. Y wedd ymarverol ar yr ysprydiaeth hon yn Nghymru, yw Undebau gweithwyr, i gydsevyll neu gydsyrthio, wrth godymu gyda'r meistri. Yn y Wladva, y wedd arni ᎩᎳ, cydelwa drwy gadw yr enillion rhag cael eu gwasgar ar ryngion—gwyr rhwng; a'r cyweithiad gwleidyddol, yn y furv leodrol. Wrth edrych ar helyntion unigolion yn y Wladva, brithion a chymysglyd yr edrychant. Eithr wrth davlu trem ar sevyllva 3000 o Gymry yma, mewn cyweithas â'u gilydd,—swp o bobl weithio gyfredin yn yr Hen Wlad, wedi eu traws—blanu i amgylchiadau cwbl wahanol i'r hyn y tyvasant ynddo—y mae'r gweddau cyweithiol sydd arnom yn aruthr o newydd a dyddorol. O vwrw golwg ar y cyd—bori blith draphlith y mae'r aniveiliaid, —y cyd-brynu ar veduron nes ymgryvhau,—y cyd-ddyrnu,—y cyd-gamlesu envawr, a'r cyd-vaelu mewn masnach; a chyda hyny, y gydreolaeth wladol ar ein cysylltiadau cymydogol a breiniol—wrth ymgodi i edrych ar yr holl bethau hyn gyda'u gilydd, furviant vywyd pur wahanol i ddim cynevin i ni yn Nghymru. Nerthant rym enillion y lle drwy eu cydgrynhoi; lleihant gadwraeth rhai digynyrch; meithrinant ddarbodaeth a threvniadaeth veddylgar; ac arverant y bobl i veddwl dros eu gilydd, dros y lluaws, yn lle dros yr hunain hunanol. Ysgatvydd mai digon avrosgo ac anelwig yn aml vydd y gweddau hyn arnom; yn enwedig wrth vwrw cip ar ryw un neu arall o honynt, ar wahan i'r lleill. Ac y mae osgo ar ein cymeriad cenedlaethol Celtig, sydd yn mynych godi cymylau ar draws ein cyweithas, sev yw hyny ansevydlogrwydd. Nid oes well pobl yn y byd na ni am vrwdvrydedd wrth gydio mewn rhywbeth, ac hyd yn nod i aberthu, os bydd raid, tra bo gwynt yn yr hwyl; ond os dechreuir oeri, ve gerdda yr iasoer drwy y corf cyweithiol, nes y rhyno i varwolaeth; a mawr y dànod a'r ymgecru wrth ben y rhew a'r ysgerbwd. Diau hevyd vod anaeddvedrwydd proviad ynom i'r vywydaeth newydd hon; bywyd sydd yn govyn parhad dyval—nid yn unig yn yr un person, ond i'w drosglwyddo o un i'r llall yn olyniaeth gyson. Elven gryvav y vywydaeth honfrwyth proviad amyneddgar—yw cyd-ddwyn, cyd-oddev. Y mae pwdu, sòri, mòni, ar unwaith yn ddangosiad o anaeddved-