Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/196

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd. Ac yn nesav at hyny yw, cymedroledd mewn siarad: cyd-bwyllo, ac nid dadleu.

"Rhed syniadau vel yna drwom, wrth edrych ar y Wladva yn ymlavnio y dyddiau hyn, mewn amryw weddau ar ei bywyd cyweithiol. Ysprydiaeth odidog ar ein Sevydliad yw hwn. Na voed i vân gynhenau na divlasdod vallu yr ysbryd hwn yn neb. Gwylier rhag i'r cryvder vagwyd yn y cydwres hwn synied y gall eve, bellach, vyw ar ei bedion ei hun, gyda'r eiddo ei hun. Hwnyna yw gwreiddyn froenedd golud a chyvala; ac mae'n sicr o vod yn bechod parod i amgylchu pobl yn dechreu teimlo eu traed danynt."

EIN CENELAETH YN NGHYMRU.

Rhag cacyna ohonom yn ormodol tua'n bys coch bach gwladvaol hwn, hwyrach y bydd yn iechyd i ni godi golygon ein darllenwyr, yn awr ac yn y man, i wybren y byd mawr, llydan; a thavlu sylliad ar y cwr hwnw ohono o'r hwn yr hanasom, 'Cymru lân, gwlad y gân.' Tra y mae cyrchu blyneddol o'r Wladva i'r Hen Wlad, gan rai wedi crynhoi y forddiol i roi gwib yno, y mae, weithian, genedlaeth gyvan yn y Wladva o rai heb ddim dawr, ond dawr hanesiol, yn Nghymru. O gymaint a hyny, mae y rhai olav hyn ar savle i roi trem eangach ar a welant, na'r rhai yn dychwel mewn dyhead at ryw vanau neu ryw gysylltiadau a wynvydir ganddynt. Oddiyma draw hevyd, y mae Cymru vach vel rhyw

'Seren vach wen, yn entrych y nen,
Yn siriol ar ael y furvaven.'

A ninau yn gwylio ei symudiadau vel y gwylia seryddwyr droellau y llu nevol. Nid oes iddi na De na Gogledd oddiyma, nac Eglwys nac Ymneillduaeth, na Cheidwadaeth na Thrwyadlaeth. "Y maent newydd vod yn rhivo y bobl yno—y ddeiliadeb bob 10 mlynedd. Ac y mae hon eto, vel pob un o'i blaen, yn Bregeth Wladvaol groch: y boblogaeth yn teneuo, ond lle byddo gweithiau mawrion, a blodeu pob cymydogaeth yn gorvod ymvudo i chwilio am le penelin. O hyn y cyvyd Gwladva Gymreig, vel symudiad gwleidyddol, pe cafai y gwleidyddion ond hamdden sobr i gymeryd golwg eang ar eu cylchynion. Trevniant ydyw y Wladva, i geisio cadw y gover gwerthvawr hwn rhag myned ar ddivancoll cenedlaethol.

"Erbyn hyn mae y Cenedlaetholdeb' hwn—neu Genelaeth, vel y mae rwyddav ei alw—yn berwi yr Hen Wlad. Ddeng mlynedd ar hugain yn ol yr oedd ein Profwyd Gwladvaol ni, yr Hybarch o'r Bala, vel un yn llevain yn y difaethwch' ar y pwngc hwn. Pan resymai oddiwrth wers y ddeiliadeb, mor vuddiol vyddai crynhoi yr elvenau cenedlaethol hyn, 'Pw,' meddid yn ei wyneb, 'trenged cenedlaetholdeb—lol ydyw i gyd.' A chod-