Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/197

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd Achosion Saesnaeg,' ac aeth y merched i vursena. Ond Rhagluniaeth o'i thu hithau, yr un pryd, a wnaeth o'r elvenau chwal hyny eu hunain, yr Ysprydiaeth Genelaidd sydd yn awr yn corddi yr Hen Genedl drwyddi. Teimlodd yr alltudion ymvudol eu gwadnau danynt,—eu bod ysgwydd yn ysgwydd wrth bobloedd eraill.—vod iddynt nodweddion gwerth eu cadw, ac vod teimlo velly yn valch o'u tras ac o'u nodweddion yn rhoddi yni ac urddas i'w bywyd. Drwyddynt hwy daeth y syniadau a'r teimladau i gerdded yr holl genedl, o leiav veddylwyr a blaenaviaid y genedl. Cymer eto beth amser cyn y daw i lawr i odreuon y genedl—gwlad hud a lledrith y mursena a'r Achosion Sasnach.

Wele bapurau y ddeiliadeb wedi eu hargraphu yn Nghymraeg, a govyniad ynddynt yn Nghymru pa iaith siaradent. Wrth gwrs, gwingodd Die Sion Davydd, a cheisiodd ddyrysu y peth. Rhoddes hyny achlysur i amryw ddeisebau vyned i'r Senedd yn Nghymraeg. Mynodd pobl Ceredigion gael eu pen—dyheddwr yn Gymro, er gwaethav yr ysgweirod a'r Ysgrivenydd Cartrevol; ac yn awr wele hanes un o ynadon y sir yn cynyg yn Gymraeg, yn y chwarter sesiwn, y dyla eu Cadeirydd vod yn deall iaith y wlad, gan ddisgwyl y buasai'r Sais Blunt sydd ganddynt yno, yn ddigon o voneddwr i roi lle i'w addasach. Hysbysiadir am athraw amaethol i Brivysgol Aberystwyth, a rhaid iddo vedru llevaru Cymraeg fermwyr. Mae yr aelodau seneddol ieuaine dros Gymru wedi peri eu teimlo yn allu yn St. Stephan, ac y mae Ymreolaeth i Gymru yn rhan hanvodol o'u credo a'u neges."

SAVON PARCHUSRWYDD.

"Mae i voesoldeb cymdeithasol ei savon. Y savon wirioneddol, mae yn wir, ydyw yr hyn sydd dragwyddol iawn, neu Dduw ; ond i gymdeithas yn gyfredin, y savon yw ymddygiadau arweinwyr cymdeithas: megis rhieni, dynion o ddysg a gwybodaeth, crevyddwyr, llywodraethwyr a chynghorwyr, ac athrawon o bob math. Velly mae savon moesoldeb, neu barchusrwydd, yn amrywio mewn gwahanol wledydd, ac weithiau mewn ardaloedd gwahanol, ac ar wahanol adegau neu gyvnodau. Dywedir, Dyna ddyn parchus,' neu, 'O mae yn ddyn parchus iawn.' Dyna ddyn yn Nghymru—mae yn gyvoethog, ac yn ddyn o wybodaeth a barn, ac yn ddevnyddiol ddigon mewn llawer cylch; ond y mae yn dueddol i yved i ormodedd. Nid yw braidd byth yn myned adrev o na phwyllgor na bwrdd heb vod yn llawn,' vel y dywedir. Os holir yn ei gylch, dywedir, 'O, dyn parchus iawn ydyw hwn a hwn,' ac os digwydd rhywun mwy manwl na'r cyfredin ychwanegu, 'Go dueddol i yved diveryn gormod ydyw,' atebir yn amddifynol iawn yn y van, mai iddo ev ei hun y mae hyny.' Ond ni edrychir ar ddyn o'r vath