Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/198

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna yr un modd yn y Talaethau Unedig. Ni ddywedir dyn parchus am dano yno, am vod tôn ddirwestol y wlad yn uwch nag ydyw yn Nghymru. Vel hyn, ni welwn vod savon parchusrwydd yn gwahaniaethu yn ol vel y mae tôn y cyhoedd yn uchel neu yn isel yn nglyn â gwahanol rinweddau. Yn awr, os ydyw y sylwadau uchod yn gywir, mae o bwys mawr, mi dybiwn, sut yr edrycha y Wladva ar ddechreu ei gyrva gymdeithasol (canys nid ydyw eto ond bron yn dechreu) ar wahanol rinweddau. Pa un edrychir arnynt yn uchel a chysegredig, neu ynte yn gydmarol ddibwys. Os yr olwg gyntav a gymerir, bydd savon parchusrwydd yn uchel, ond os yr olwg olav a gymerir, bydd savon parchusrwydd yn isel ac amheus, a bydd yr oes sydd yn codi vel yn y niwl beth ᎩᎳ bod yn barchus.

"Bwriadav alw sylw at dri pheth ag y mae o bwys i'r Wladva vod yn glir a diddadl yn eu cylch, sev Priodas, Sabbath, a Sobrwydd. Na ddychryned neb rhag vy mod yn myned i bregethu ar y pyngciau hyn. Mae yn wir vod iddynt eu gwedd grevyddol, vel i bob pwngc, ond nid ar y wedd hono yn uniongyrchol y bwriadwn edrych, ond edrychwn arnynt vel y maent yn gloddiau, a finiau gwareiddiad a chymdeithas dda.—A. M."