Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/199

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXII.

TIROEDD EANG GWREGYS TYVIANUS GODRE'R ANDES.

Wedi i'r Llywodraeth Arianin ymlid y brodorion o'u cynevin a'u llochesau tua'r Andes, deallwyd vod gwlad vawr, amrywiog ei nodweddion, yn ymestyn yn wregys gyda godreu yr Andes, ac vel pe rhwng hyny ag is-res o drumau nes i'r dwyrain. Cawsai J. D. Evans a'i gymdeithion anfodus laddwyd gan yr Indiaid gip arni y pryd hwnw: ac yr oedd adroddion milwrol cadgyrch y Cadvridog Roca yn cadarnhau yr argraf favriol hono, ac yn gwirio hen draddodiadau yr Indiaid am Wlad yr Avalau, a Mynydd y Taranau, a Llyn y Cyvrinion. Velly, yn 1886—7, cynullodd J. M. Thomas vintai o'r gwladvawyr i vyn'd gyda'r Rhaglaw Fontana ac yntau a G. Mayo, "i weled y wlad"—bawb yn dwyn ei draul ei hun, eithr dan reolaeth hwy ill dri. Gosgordd anrhydeddus oedd hono gavodd y Rhaglaw—heb ddim yn vilwrol ynddi ond eve ei hun a'i votymau a'i sergeant: (ond y dygai y gwladwyr beth arvau at saethu cig-vwyd). Ac ni chavodd neb erioed anturiaeth hapusach, a gwneud gwasanaeth i'w wlad ar leied o drwst a thraul. Yr oeddynt ryw 30 o niver. Gwnaeth y vintai hono ddwy daith archwil ar yr eangderau newydd ymagorai o'u blaenau, a gwnaed wedi hyny wibiadau i gywiro yr argrafion cyntav, brysiog: ac ar ol hyny aeth y Rhaglaw (a J. D. Evans gydag ev) ar hyd fordd arall bob cam i'r Rio Negro hyd i Patagones. Ymhen yspaid wedyn aeth agos yr un vagad egniol o wladvawyr (heb y rhaglaw) dros ranau o'r un daith, dan arweiniad J. M. Thomas, i agor fordd dramwy i veni, bob cam i Vro Hydrev—y fordd vawr bresenol. Hawdd mynegu hyn ar bapur ymhen blyneddoedd, ond yr oedd yn wroldeb a threvnidedd ardderchog yn y cyvnod a'r amgylchiadau hyny. Dilyna y fordd, gan amlav, hen lwybrau y brodoriongyda'r avon hyd yr oedd hyny yn ddichon, ac yna ar draws y paith maith bryniog a charegog, hyd at Ryd-yr-Indiaid, lle y gadewir yr avon wrth anelu am y gorllewin (gan ei bod hi yn gogwyddo tua'r gogledd-orllewin), a chan ddirwyn eilwaith gyda hen lwybr brodorion nes dod i Teca, ac oddiyno eilwaith balvalu eu fordd drwy Gors Bagillt a godreu mynydd Tswnica (Pico Thomas), gan ddisgyn o'r uchelderau gyda Nant Rhyvon (sydd yn arllwys i'r Tawelvor). Yno yr ymegyr gwlad vawr, hardd Bro Hydrev ("Cwm Hyvryd"). O'r van hono ymganghena y vro yn ddwy gaingc—yr un tua'r gogledd am Eskel a Cholila, a'r un tua'r de drwy goedwigoedd y "Dyfryn Oer