Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II.

CYMRU PAN GYCHWYNWYD Y WLADVA, 1850—65.

Cyvnod rhyvedd ar Gymru oedd y blyneddoedd hyny—arav ddefroad i'r ymwybyddiaeth genedlaethol: tebyg i ddych'mygiad un am y cread—"Y ddaear yn avluniaidd a gwâg—tywyllwch ar wyneb y dyvnder—ac ysbryd yn ymsymud ar wyneb y dyvroedd." Yr oedd ovn gwg arlwyddi tiriog vel hunlle dawedog dros y wlad: tra'r ebychai y grealon a'r Amserau wich a gwaedd i geisio cyfroi deall a barn gymdeithasol—wleidyddol y genedl. Yn y cyvnos hwnw bu erlidigaeth diriol drom ar Veirion, Maldwyn, Ceredigion, a Myrddin: rhoddodd hono achlysur i weinyddiaeth Arg. J. Russell gael ymchwiliad pwyllgor seneddol i'r helynt. "A'r hwyr a vu, a'r bore a vu."

Tua'r un adeg yr oedd advywiad llenyddol ac eisteddvodol yn dechreu cyniwair pob ardal—o'r Wyddgrug i Valdwyn, Penllyn, Arvon, Ceredigion, Myrddin, a Morganwg. Yn 1849 y bu Eisteddvod Aberfraw, a ddilynwyd gan un Rhuddlan, Madog, a Llangollen; tra'r oedd Deheubarth yn eisteddvoda yn y Véni, Merthyr, Trevoris, Llanelli, &c.

Yn ystod yr un cyvnod yr oedd hevyd gyfroadau crevyddol dwys mewn amryw barthau o'r wlad—gan ddechreu tua Phontrhydvendigaid, a cherdded drwy Veirion, Arvon, Mon, a Dinbych.

Erbyn hyny hevyd yr oedd peth ysbryd anturiaeth a masnach wedi cyraedd y Cymry oedd yn Lloegr a Morganwg, vel y dechreuasant deimlo eu traed danynt, a "chael blas ar bres." Ymwaelododd yn arav velly gaenen deneu o gyvala.

O'r anelwig ymysgwyd hwnw y daeth i'r golwg yn y mán ymdrechion J. Phillips am Goleg Athrawol, a Hugh Owen am Athrova Golegol—aeddvedwyd cyn bo hir gan Dr. Nicholas a Dr. Charles yn Aberystwyth.

Erbyn yr 8'egau yr oedd y levain yn y blawd, a'r clamp toes yn chwyddo ac ymweithio, nes peri i'r corf gwladol ymestyn ac anesmwytho. Daeth Rhyvel Gartrefol vawr yr Unol Daleithau i dynu allan hyawdledd Bright, Cobden, a Ward Beecher rhag y gaethvasnach, a phob cyfelyb draha a gormes, nes llwyr ddefroi y gydwybod Ymneillduol" Gymreig i'w seiliau. Velly yr oedd Cymru, wedi deiviad tân yr erlidigaeth diriol, yn aeddved i ymdrech ac i aberth, o byddai raid. Yn y twymiad hwnw naturiol iawn oedd i Gymry yr Unol Daleithau vod mewn cyfelyb wres a chywair—miloedd o'u pobl (Gymreig) wedi rhoi eu gwaed dros y syniad oedd ynddynt am iawnder a brawdedd