Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/200

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r Corcovado. Oddiar waelod dyfryn Nant-rhyvon, cyn y llyngcir hono gan yr avon vawr Caran-lewfw (o'r gogledd), y mae golygva Bro Hydrev yn werth myned ymhell i'w gweled— yn enwedig wedi y daith vaith, unfurdd o'r Wladva. Cyvyd yr Andes yn gadwen benwyn tua'r gorllewin, ond y llethrau islaw moeledd gwyn y penau yn elltydd coediog hardd ac amrywiol— o'r bedw brigog—ganghenog i'r pinwydd talsyth cyhwvanog; a mathau lawer o brenau eraill addurnol neu vyth—wyrdd. Ymestyna y gelltydd hyn yn ymylwe tua'r de hyd at y Corcovado, ac i'r gogledd hyd at Eskel; y gwaelotir oddi arnynt yn ddolydd porvaog—lle yn eu tymor y bydd carped o syvi (mevus) peraidd, neu a orchuddir gan vrysglwyn, neu hesg, neu vrwyn, yn ol vel y bydd yr avonydd. Neu os troir y wyneb i godiad haul drachevn (a'r cevn at yr Andes), ymddyrcha mynydd Llwyd a mynydd Tswnica a mynydd Edwyn megys breichiau o'r Andes vawr, a'u penau gwynion ganol hav yn dangos ucheled ydynt, er heb vod mor gydiol gadwynog a'r briv drum. Oddiyno tua'r dehau rhed y gwregys iraidd hwn ynghysgod yr Andes nes d'od i Lyn Fontana, o'r hwn yr ymarllwysa'r avon Sin-gyr (lled. 45)—corf o ddwr gymaint a'r Chubut ei hunan: ond wedi gyrva o 400 o villdiroedd a ymgolla o ran gwely (a dyvroedd weithiau) yn y Chubut ryw 100 m. cyn i hono gyraedd y mor. Tua'r gogledd o Vro Hydrev eto mae yr un nodwedd o wlad nes d'od at Lyn Nahuel-huapi—dyvroedd yr hwn yw fynonell avon Limay, a hono oddiar y van yr ymuna yr avon Neuquen gyda hi, a wnant rhyngddynt yr avon Negro, sy'n ymarllwys i'r môr yn lled. 41 (a'r Chubut yn 43. 15). Ar y daith hono, wedi dargan vod Llyn Fontana a'r Avon Sin-gyr, dilynwyd hono nes gwel'd Llyn Colwapi (o vewn rhyw 50 milldir i'r Werydd), gan ddychwelyd i'r Wladva gyda dilyniad dysbeidiol y Sin-gyr, eilw y brodorion yn Iámacan ("yr avon vach "), sydd yn agor i'r Camwy ryw gan milldir o'r môr. Drwy y teithiau hyn gallodd y rhaglaw gyvlwyno i'w Lywodraeth adroddiad lled gyvlawn am y diriogaeth oedd dan ei oval. A gwybu y byd gwybodus amcan go lew am y darn daear oedd i vyn'd dan yr enw Tiriogaeth Chubut o hyny allan.

I ddangos ei chymeradwyaeth o'r gwrhydri hwnw, ac yn anogaeth i'r sevydlwyr avael yn y lle, neillduodd y Llywodraeth 50 lech (250,000 erwau) o'r tiroedd goreu welsid i vod_yn wladva yno i'r sevydlwyr —a dyna yw BRO HYDREV. Pan wnaed covriviad 1895, yr oedd yno 944 o drigolion ac 85 o dai— ond y cynwysid yn y figyrau hyny gryn 500 o Indiaid a Chiliaid. Ysywaeth, mae y Llywodraeth hyd yn hyn heb drosglwyddo meddiant cyvlawn o'r wlad i'r sevydlwyr rhag ovn i hyny beri tramgwydd i Lywodraeth Chili, wrth vod pwnge y finiau rhwng y ddwy wlad yn anorfenol. Mae hyn yn peri peth elven o anvoddlonrwydd ac ansicrwydd i veddyliau y sevydlwyr