Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/203

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

$300,000 am vesur yr holl diriogaeth velly. Yr oedd hyny dan arlywyddiaeth Juarez Celman, yn erbyn yr hwn y bu chwildroad 1890, ac y bwriwyd ev allan o swydd: a chymaint oedd y llygredd gwleidyddol y pryd hwnw vel na roddai neb ddimai am y sicrebau tirol hyny elwid "Sicrebau Milwrol Rio Negro." Pan ddechreuwyd carthu y llygredd, ac i rai dynion cywir dd'od i awdurdod, ac i adroddiad y mesurwyr vuasent dros y tiroedd ddechreu d'od yn hysbys, ymholid obeutu'r sicrebau yn gynil & gwyliadwrus. Bu clytio a newid llawer ar y trevniad gweinyddol yn eu cylch, vel y buwyd hir o amser yn eu hystyried megys "cath mewn cwd," neu lotri i anturio o ddamwain arnynt. O'r diwedd trevnwyd y gallai pwy bynag oedd yn dal sicrebau gael tir i'w gwerth, ond i'r perchen ddynodi a thalu am advesur y manau ddymunai gael. Yr oedd y mesurwyr, neu bwy bynag arall oedd wedi bod dros y tir, mewn mantais i vedru dynodi y manau goreu: ac vel y cryvhai hyder cydnabyddid velly unrhyw hysbysrwydd gwarantedig ellid gael vel sail meddiant i'r tiroedd i'r rhai gymerent yr antur. Ar y cychwyn yr oedd pris y sicrebau hyn yn isel iawn, oblegid difyg hyder y cyhoedd yn nifuantrwydd y trevniadau: ond codai y pris yn raddol nes bod, mewn rhai manau yn 4s. neu 5s. yr erw, vel y prinhai y tiroedd cyhoeddus, oblegid y gwerthu wnelai y Llywodraeth ar ran—diroedd eang—weithiau drwy "uchav ei gynyg," neu weithiau drwy drevnu arbenig gyda Swyddva Tiroedd Cyhoeddus. Yn y dull hwn tavlwyd yn agored i anturwyr ryw 2,000 lech o'r tiroedd tyviantus gyda godreuon yr Andes; a gadael 3,000 neu 4,000 eraill o vanau llai golygus at drugaredd y dyvodol. Dylid covio yn y van hon vod pob lech tua 5,000 o erwau (a bod yn vanwl 2,500 hecterw). Mae y tiroedd hyn wedi eu mesur yn sgwar (petrual) o 4 lech, sev 2 x 2, ond wedi eu rhanu weithiau i lenyrch llai: eithr amlach o lawer yn rhandiroedd o 8 neu 12 neu 16 lech yn yr un enw. Wedi i'r anturwyr gael eu dewis vanau bydd y gweddill yn agored i'r cyhoedd, yn ol rhyw vantais neu gyvleusdra y deuir i wybod am danynt. Vel engraift arall o'r gwerthiant tirol hwn, dylid nodi y llain o 60 lech gyda'r arvordir ynghyfiniau y Wladva, ychydig i'r de o'r avon Chubut, ryw 60 milldir islaw aber yr avon. Yn t.d. 75 eglurir vel y bu raid i sevydlwyr y Falklands symud eu deadelloedd oddiyno am vod yr ynysoedd hyny yn llawn: mudasent rai tua Chydvor Machelan a Santa Cruz: ac yn ddiweddar prynasant davell o 60 lech, gyda'r sicrebau milwrol oedd yn y varchnad, gan ddwyn drosodd rai miloedd o ddevaid o'r Falklands i'w dodi ar y tir brynasid gerllaw y Wladva.

Y mae eisoes sevydliadau eang (gan mwyav o ddevaid) yn britho llawer o'r tiroedd y cawsid meddiant ohonynt drwy y sicrebau milwrol, ac y mae hevyd viloedd o ddaoedd yn cael eu cadw ar diroedd velly gan squatters, heb berchenogaeth yn y