Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/206

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Neillduir 50 lech y fordd hono ar yr un telerau ag y gynygir yn Jenua. Eithr y mae'r gwastadeddau hyn yn dra chymwys at eu dyvrhau, yr un modd ag yr ydys yn dyvrio dyfrynoedd cnydiol y Wladva. Lliva avon vawr y Sin-gyr i'r llyn eang Colwapi, gan vyned heibio dyfrynoedd a gwastadeddau dyvradwy lawer yn yr holl gyfiniau hyny. Weithiau bydd y llyn agos yn sych, gan adael gwastadedd o waddod bras lle y bu ei wely. Gyda phroviad gwyddonwyr dyvrhau y Wladva, byddai rhagolygon y gwastadedd hwn yn eithav cyraeddadwy. Ar y ddau tu y mae ceryg hylaw yn y cyraedd at adeiladu (ac argaeo os bydd raid). Ystyriaeth arall bwysig i sevydlwyr yr ardaloedd hyny yw vod cymoedd pori manteisiol iawn yn y cyraedd; lle y mae tarddiadau dwr yn treiglo o'r llethrau gerllaw, nes ireiddio y borva i'r daoedd a'r deadelloedd. Nid oes borthladd diogel a hwylus yn nes na Bustamente neu Malaspina, ryw 150 o villdiroedd o Colwapi: ond y mae Tili Roads (ar y cyver) tua haner y pellder hwnw, ond nid mor gyraeddadwy ar bob tywydd.



Dyfryn KEL-KEIN—Neillduasai'r Llywodraeth ddyfryn Kel-kein yn fermi 100 hecterw (240 erw), ar gyver dyvudwyr y "Vesta," yn benav: un ferm yn rhodd, a'r lleill i'w gwerthu am bris cymedrol iawn. Buwyd yn hir yn cael y caniatad gweinyddol drwy y furviau govynol yn y swyddveydd: a thrachevn gyvnewid y lleoliad, vel ag i gynwys y dyfryndir ymarverol. Erbyn hyny yr oedd dyvudwyr y "Vesta" wedi chwalu, a rhoi i vynu y syniad o sevydlu yno—ac wele gwag ydyw hyd yn hyn. Yr eglurhad, mae'n debyg, sydd vel y canlyn: Mae cwr isav y dyfryn hwnw, dyweder, gryn 100 milldir o'r Wladva, a fordd lled anhawdd ac anhygyrch tuag yno. Dadleuid na ellid gobeithio "cario gwenith "oddiyno i'r Wladva am bris dalai y draul: y pryd hwnw nid oedd gwerth tunell o wenith yn y varchnad ond rhyw £3. Barnai y rhai hyderus y gellid cael 300 o fermi vedrid ddyvrio ar y dyfryn hwnw, gyda pheth gwaith camlesu a chlirio drain. Sonir yn awr am redeg rheilfordd o'r Wladva i Teca—y Llywodraeth eisoes wedi penodi gwyddonwyr i edrych ac evrydu y peth; a phan wneir hyny bydd dyfryn Kel-kein yn gyraeddadwy iawn o'r Wladva. Y dyfryn hwn yw llwybr presenol y mèni lawer sydd yn travnidio i'r Andes, ac yno mae yr orfwy sa gyntav wedi croesi yr Hirdaith vaith a'r havnau milain sydd ar y ddau ben i'r daith. Nid yw y paith cylchynol, debygid, yn borvaog iawn heb vyned ymhell tua'r gogledd, lle mae nentydd a phantiau golygus. Gellid deall y gwahaniaeth vyddai i'r dyfryn hwn pe y ceid rheilfordd yn ei gyraedd, gan vod gwlad o 300 o fermi yn golygu cartrevi i luaws o bobl ryw ddiwrnod.