Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/207

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae dyfryndir cul, troellog, am gryn 30 milldir oddiar gwr uchav y Wladva, yn myned dan yr enwau Dyfryn yr hen eglwys," a "hen wely," "campamento," &c. Bualir llawer o ddaoedd y fordd hono yn y tymor hav, i'w cadw rhag myned ar grwydr i'r meusydd yd yn y Wladva, gan dalu hyn—a—hyn y pen am eu gwarchodaeth dros y tymor. Mae tua'r fordd hono rai lleiniau o dir a rhyw vath o veddiant arnynt.

XXXIV.

Y TIRIOGAETHAU CYSYLLTIOL.

Eglurwyd yn t.d. 147 ddarvod i'r Llywodraeth greu naw o Diriogaethau wrth wneuthur trevn a dosbarth ar y tiroedd di—boblog berthynent i'r Weriniaeth. Pump o'r rheiny wnelent gynt y rhaniad daearyddol adwaenid vel" Patagonia." Tiriogaeth Chubut (y Wladva) yw y ganol o'r rheiny—Rio Negro a Neuquen i'r gogledd, Santa Cruz a Terra del fuego i'r de. Yr olav yw y leiav, gan nad yw ond haner yr ynys sydd yn gorwedd rhwng cydvor Machelan a'r penrhyn eithav—yr haner arall ymeddiant Chili. Mae'r haner isav hono drachevn yn goediog a gwlawog; tra y rhan uchav yn sych a pheithog brodorion corachaidd pysgotol sydd ar y rhan goediog a gwlyb, ond y Tsonecod cryvion a'u gwanacod ar y rhan arall, agosav i'r cydvor Mae y Llywodraeth yn nawddogi y diriogaeth vechan hono oblegid ei savle ryng—wladol—rhwng Chili ag Archentina, a cherllaw y Falklands: ond mae ei choed yn peri travnidiaeth vywiog, a'i physgodveydd yn gynaliaeth i lawer. Bu cenadaeth vlodeuog gan Eglwys Loegr yno amser yn ol at y brodorion còraidd: ond y mae hono wedi edwino oddiwrth ddylanwad mall alltudva Arianin osodasid gerllaw. [Gwel t.d. 74].

SANTA CRUZ (Groes-wen).

Mae fin ogleddol y diriogaeth hon yn cydio wrth fin ddeheuol tiriogaeth y Wladva, ac y mae hi tua'r un vaint o wlad, ac yn lled gyfelyb o ran nodweddion —gwregys tyvianus gyda'r Andes, a'r llain oddiyno i'r arvordir yn baith tebyg i'r Chubut. Un avon vawr sydd i'r diriogaeth, sev yr avon Santa Cruz; ond y mae un arall lai, yn rhedeg o'r Andes i'r môr, sev y Gallegos, tua lled. 52°: ac y mae cangen yn d'od i'r Santa Cruz (elwir Siawen), yn ymarllwys iddi heb vod ymhell o'r môr (lled. 50°).