Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhed y Santa Cruz o Lyn Viedma, yn yr Andes—llyn vel Llyn Fontana a Llyn Nahuel—huapi—ac ymddengys vod cyvres o lynoedd cydiol gyda'r llethrau Andesaidd, rai yn arllwys i'r Tawelvor, a'r lleill yn tynu at Lyn Viedma a San Martin: tra yn uwch i'r gogledd vyth y mae llyn elwir Llyn Buenos Ayres, a dyvroedd yr hwn y gobeithir vedru eu camlesu cyn hir i'w harwain i Borthaethwy (Port Desire), a dyvrio dyfryndir eang ar y fordd tuag yno. Ceisiodd Darwin a'i gymdeithion ar y "Beagle vyned i vynu'r avon Santa Cruz hyd i lyn Viedma ; ond pallodd eu hamynedd, er y llwyddasai yr Hispaenwr Viedma i archwilio'r llyn agos i ganriv cyn hyny: biď a vyno, deallwyd drwy y gwch—daith hono nad oedd nemawr ddyfryn amaethol gyda'r avon er cryved ei dyvroedd, vel nad oedd ragolygon am sevydliad amaethol mawr y fordd hono. Mae cŵr isav Tiriogaeth Santa Cruz gryn lawer yn oerach na'r gwregys paith ar y cyrion gogleddol a chan vod lled y cyvandir yno yn llai, mae lleithder y gwregys iraidd gyda'r Andes yn peri vod y borva yn well, a tharddiadau dwr yn amlach. Gyda'r gwregys llynoedd y mae creigiau basaltaidd anhygyrch: gyda'r arvordir mae y paith unfurv anwastad, nes d'od at dueddau Borth San Julian, lle sydd is a mwy tywodog, gyda morveydd eang: nes d'od eilwaith at y bryndir ar dueddau Sea Bear Bay ac ynys Penguin.

Borth Gallegos (lled. 52°) yw canolvan y diriogaeth, ac yno y mae'r rhaglawiaeth. Gen. Mayer oedd y rhaglaw nes y bu varw yn ddiweddar: a chan ei vod yn ieithwr da (vel Almaenwyr yn gyfredin), a llawer o Brydeiniaid wedi ymsevydlu yn y tueddau hyny, fynai dealltwriaeth a chydweithrediad calonog. Wrth benodi olynydd iddo dewisodd y Llywodraeth AmerigwrArianin o'r enw Mackinlay, yn meddu yr un cymwysder ieithol, ar gyver sevyllva gymysg y diriogaeth yno. Ve ddeallir yma vod y gwregys tyvianus gyda'r Andes yn ymestyn i'r llain cyfelyb perthynol i Chili yn y sevydliad a'r drev ar y cydvor elwir Sandy Point, neu Punta Arenas. Yno yw porthladd a chyrchva masnach y wlad hono, gan vod y borth yn ddi—dol i bob cenedl, ac ar vynedva y cydvor i agerlongau yn galw heibio.

Devaid a gwlan yw priv adnoddau y Diriogaeth hyd yn hyn: a chan mai de veitwyr cevnog o'r Falklands yw y sevydlwyr, cymerant bob goval a thraferth i wella eu deadelloedd a'u bualau, nes bod gwedd fynianus ar y diriogaeth.



TIRIOGAETH RIO NEGRO.

Yr avon vawr Negro yw fin ogleddol y diriogaeth hon, a lled. 42°, yw y fin ddeheuol, gan ymestyn rhwng yr hydredau hyny hyd at Lyn Nahuel—huapi, a dilyn y gwregys Andes hyd y fin ddeheuol. Mae hyn yn arwynebedd mawr, gan vod lled y