Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/209

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyvandir o'r môr i Nahuel—huapi agos i 400 mill. Ond oddieithr dyfryndir Viedma (trev Patagones) hyd at Pringles, a chyda hyny rimynau dyfryndir Couesa a Castro, ni cheir nemawr wlad amaethol nes cynwys gwastadedd mawr Choel—choel—yr hwn yn ddiau yw gardd y diriogaeth. Mae dyfryndir gweddol yn y lle elwir Chinchinal; ond amgenach na hyny yw Roca, ychydig islaw deuddwr y Limay a Neuquen: ac yn uwch na hyny eto mae gwastadiroedd eang minion llyn Nahuel—huapi. Gerllaw Roca gweithiodd y Llywodraeth gamlas ddyvrio, rai blyneddau yn ol: ond ni wneid y devnydd ohoni ddisgwylid: eithr gan vod yno yn awr wersyllva vilwrol boblog, diau bydd dda wrth y gamlas hono i gynyrchu rheidiau i'r boblogaeth y fordd hono. Mae dyfryndir mawr Choel—choel cyn hir yn debyg o vod yn ganolvan gynyrchus a chyniwair iddi—tàw eisoes y mae'r rheilfordd elwir llinell Neuquen wedi ei gweithio at y llanerchi hyny o Bahia Blanca ar y Werydd: estynir y llinell hyd at Roca ac yn y man, debygid, y croesir y Rio Negro yno, gan anelu y llinell wedyn i gyveiriad tiroedd Nahuel—huapi, man y mae bwlch mynedva i Chili.

Mae finiau Tiriogaeth Rio Negro yn cynwys rhanau o'r avon Colorado mewn manau, ac yn cydio hevyd wrth finiau Tiriogaeth Pampas, tra mae cydiadau eraill ohoni gyda thalaeth Buenos Ayres.

Paith, velly, y rhaid ystyried rhelyw y Diriogaeth eang hon —oddigerth y manau ddynodwyd, y rhai yn ddiau ydynt lanerchau pwysicav y wlad.

Mae y Rio Negro yn avon vawr ysblenydd: a rhedir agerlongau bas arni ar dymorau, hyd i vynu at Roca. Ond dengys y faith vod y Llywodraeth yn adeiladu rheilfordd gyvochrog gyda'r avon, vod anhawsderau ymarverol i wneud devnydd mordwyol ohoni.



TIRIOGAETH NEUQUEN.

Gwlad vynyddig wrth geseiliau yr Andes yw y diriogaeth hon, a'r avon Neuquen yn llivo o'r gogledd-orllewin, i uno gyda'r Limay (o Nahuel-huapi) gerllaw Roca: ac o hyny allan elwir y Rio Negro. Hon oedd hen wlad yr Indiaid—gwlad yr avalau (manzanas): a thrigai miloedd o'r Manzaneros y fordd hono, gan gyniwair i Chili ac hyd Mendoza vel y byddai cyvleusderau. Pan wasgodd Archentina am veddiant o'r wlad, vel rhan o'i thiriogaeth, ymvudodd tair mil neu ragor o'r trigolion i Chili, yn hytrach nag ystyried eu hunain yn Archentiaid.

Y mae gan y Weriniaeth Arianin raglawiaeth gyvlawn yno, vel yn y tiriogaethau eraill yn y man a elwir Chos—malal. Gyda Chili y mae hen gyvathrach y bobl hyn—yn wir hwynthwy yw yr Arawcaniaid, ac ol yr hen genadaethau Jesuitaidd ar eu devion hyd heddyw.