Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynoliaeth, a llawer ohonynt yn dystion byw o'r erlidigaeth diriog a'r ormes uchelwyr. Ymdavlasai S. R. vlaenllaw i ddanedd yr ormes yn Llanbrynmair, ac ysgubwyd ev o'r badell i'r tân pan aeth i Tennessee i wneud Gwladva.

Ac yn y dymp vawr hono yr esgorwyd ar y syniad o Wladva Gymreig.

Yr oedd M. D. Jones, y Bala, yn un o'r ebyrth ddygent dystiolaeth o vlaen Pwyllgor Ty'r Cyffredin : ac yno y rhoddodd adroddiad o erlidigaeth a marwolaeth ei vam yn y Garneddwen, ar stad Syr Watcyn. Vel canlyniad o'r wasgva a'r defroad hwnw, cavwyd gan D. Williams, Castelldeudraeth, sefyll etholiad dros Veirion, a "Davies y Borth," dros Gaernarvon; ac er na vuont lwyddianus y tro hwnw, yr oedd yr hèr veiddgar hono wedi enyn tân digonol erbyn yr etholiadau dilynol, i'w gosod hwy a Watkin Williams, a Jones—Parry yn aelodau Seneddol dros Gymru. Aeth Ymneillduwyr y Deheudir gam ymhellach na hyny pan osodasant yr addvwyn Henry Richards, Apostol Heddwch," yn aelod dros Verthyr ac Aberdar. A bu aruthr iawn gan uchelwyr Cymru y tro oedd ar vyd.

III.

Y WERINIAETH ARIANIN PAN GYCHWYNWYD Y WLADVA.

I'r darllenydd cyfredin, evallai mai lled ddyrus a niwliog yw hanes y Weriniaeth Arianin (Argentine Republic). Gwyddis, hwyrach, mai yn 1810 y cyhoeddodd y wlad hono ei hun yn anibynol ar Spaen, ei hen vam—wlad,—yn amser rhyveloedd Napoleon Bonaparte, ac y cymerth arni ei hun furv—lywodraeth Werinol. Dair blynedd cyn hyny gwnaethai Prydain ymgais drychinebus i gipio meddiant o'r wlad, drwy y Cadvridog Whitelock a'i 10,000 milwyr. Cyneuodd hyny wladgarwch angerddol y bobl—oeddynt eisoes yn vyw i'r dyhead mawr gychwynasai Chwildroad ovnadwy Frainc—ac yn y brwdvrydedd hwnw y cyhoeddasant eu hunain yn bobl rydd, werinol.

Ond bu cyvnod maith o anrhevn ac ymladd enbydus ar ol hyny. Yr oedd yn 1820 cyn y medrwyd cytuno i lywodraethu y wlad yn ol y gyvundrevn gyngreiriol (federal), sev yw hyny, pob talaeth yn y cyngrair i reoli ei threvniadaeth daleithol ei hun, o vewn rhyw ymrwymiad cyfredinol.

Yn 1826 teimlid vod y 13 talaeth wnelai i vynu y cyngrair yn avrosgo, anesmwyth, ac anghryno, ac velly medrodd Rivadavia ail asio yr elvenau ar y cynllun o un weriniaeth, un bobl.