Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/210

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXV.

ELVENAU DAEARYDDIAETH A DAEAREG Y DIRIOGAETH.

Drwy gymorth y map cydiol gyda'r llyvr hwn, gellir amgyfred yn well a chael peth dirradaeth am y wlad vawr sydd yn myned dan yr enw Tiriogaeth Chubut—sev rhan ganol y mynegiad amwys gymerid yn gyffredin gynt dan yr enw Patagonia. Mapiau arverol Prydain ac Ewrob a'i galwasant Patagonia: eithr yr hen enw gwreiddiol Hispaenig ar yr holl wlad oedd Patagones: sev yw hyny, y Traed Mawr, am mai velly y traddodiad am vrodorion cynhenid cawraidd y wlad. Y Llywodraeth Arianin, pan gavodd veddiant o'r wlad, a'i rhanodd yn bedair tiriogaeth, sev Rio Negro, Chubut, Santa Cruz, a Tierra del fuego. A'r un yn myned dan yr enw Chubut yw y rhandir vawr sydd at law y Wladva i'w phoblogi a'i dadblygu (gwel y trevniant llywodraethol). Yr eglurhad ar yr enw sydd vel hyn: Y brodorion arverent alw y briv avon dan yr enw Chupat (vel yn Saesneg) neu Tsiwba: ond chupar yn Hispaenaeg yw diota neu lymeitian, a rhag i'r lle gael llasenw barnodd Dr. Rawson (y priv weinidog) mai Ïlareiddiach enw vyddai Chubut (a seinio y ddwy u vel w).

Wrth wneud y rhaniad hwn, nid yw ond llinelliad daearyddol dychmygol o ran de a gogleddd: ond cadwen mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin, a Môr y Werydd ar y dwyrain yn finiau eglur. Rhaniad mawr Natur arni yw y ddwy avon o'r Andes i'r môr—sev y Chubut, o tua lled. 42° a hyd. 72°, gan arllwys i'r Werydd lled. 43.15; a'r llall yw yr avon Sin—gyr, o Lyn Fontana, yn lled 45°, ac wedi teithio rhyw 400 milldir yn ymddyrysu tua Llyn Colwapi, lled. 45.50.

Rhaniad arall Natur arni yw y gwregys, traws i'r ddwy avon (a nentydd eraill), sydd yn finio ymyl mynyddoedd yr Andes—o 42° i 46°—gwregys iraidd tyviantus. gydag aberoedd a choed mewn manau; ond chwyddiadau o ucheldiroedd gwastad, eithr gostyngiadau eang, vel meingciau neu risiau aruthr, dan wisg o borva heb vod yn doreithiog bob amser.

Megys o ystlysau y cewri dwyreiniol i'r chwyddiadau meingciol hyn y daw amryw frydiau a nentydd—y benav o'r rhai yw y Teca, yn llivo o'r de i ogledd am 250 milldir, gan ymarllwys i'r Chubut tua lled 42:50. Y lleill ydynt aberoedd Chirik, Erw—waw, Jenua, Samn, Apele—oll yn tynu tua'r Sin—gyr a Colwapi. Gyda'r arvordir dwyreiniol—min y Werydd—mae y wedd yn wahanol iawn i'r hyn ydyw tua'r gwregys Andesaidd. Yma ceir y furviadau rhyvedd alwai Darwin yn bench formation,