Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/211

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

megis meingciau neu risiau y cynvyd. Nid ydynt, yn wir, onid gwaelod y môr wedi ei ddyrchavu yn ei grynswth, nes bod yn vyrdd—dir uchel, eithr eilwaith, mewn manau, wedi ei gavnio a'i rychu yn nhreigl cyvnodau. Gan vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych, nid yw lleithder a thyviant yn mènu nemawr ar wedd y furviadau ar y copäau: eithr eglur vod rhyw dywalltiadau mawr o wlaw ar adegau yn rhwygo llethrau y paith meingciol hwn yn bantiau a havnau. Amrywia lled y gwregys peithiog hwn o 60 milldir, tua lled. 45.50 (cyver Kolwapi), i 150 mill., lled. 42° at Banau Beiddio. Ond torir ar draws ac ar hyd y paith meingciol priddol, gwaddodol hwn gan rimynau o greigiau celyd neu ronynog garw. Ar gyfiniau y Télsun mae pigyrnau llosgvalog amlwg, yn rhedeg gydag ymylon y paith uchel: tua chwr uchav dyfryn cyntav y Camwy (Chubut) mae y creigiau celyd, talpiog hyn yn rhedeg megys mur gyda'r avon Iámacan, ac yna ryw 50 milldir is i'r de a dorant ar draws, o ddwyrain i orllewin, yn gevnen o'r un creigiau moelion—heb vod yn uchel——nes dod yn agos i'r môr.

[ocr errors] Cyvres o'r peithiau a'r creigiau a'r tomenau hyny yw y wlad ganol vawr hono, nes dod at yr agorva o ddyfryndir elwir Dyfryn yr Allorau, neu ar lavar gwlad Rhyd—yr—Indiaid" (lle mae gogwydd i dde—orllewin yn yr avon). Oddiyno ymlaen, i gyveiriad gorllewin, (am ryw 60 milldir eraill) lle yr ymgyvyd gris neu vainc arall uwch, ond yn vwy bryniog a chydiol vel cyvresi cadwenol eithr yn eu hymyl is—beithiau a sych—lynoedd (vel tuag 'Ania"). Ryw 50 milldir pellach yn yr un cyveiriad mae vel petai lanerchau ireiddiach, eithr uwch eto o lyvel y môr—yn ymestyn velly hyd at ymylon y gwregys tyvianus y cyveiriwyd ato.

66

Mae'n anobeithiol gallu cyvleu mewn darlun geiriau, amgyfrediad o nodweddion mor wahanol i ranbarthau cyfredin Ewrob. Y mae mor eang unfurv o ran rhyw weddau, tra'n amrywio'n ddirvawr o ran rhai neillduolion eraill, vel nas gellir cymhwyso ati yr un desgriviad cyfredinol, vel ag i'r meddwl ddelweddu iddo'i hun ryw syniad clir am y wla l. Ovnadwy, hwyrach, yw y gair addasav am y paith maith, mud: aruthr, evallai, gyvlea y syniad am chwyddion ac uchelion yr Andes yn eu hanverthedd. Nid difaith dywodog: ond difaith gerygog,—sych—bantiau cleiog neu varianog: anialedd o ddrain, a blewyn tuswog rhyngddynt, neu grug cwta mewn manau eraill. Ar rai o'r llethrau oddiar y peithiau, neu wrth odreu rhai eraill, ymddengys tarddiadau o ddwr gloyw—eilw y brodorion ' llygaid dyvroedd "—ond lle bynag y byddant dangosir tyviant o vrwyn, neu hesg, neu borva las—yn ol grym y tarddiad. Mewn manau o'r paith hwn mae rhai o'r tarddiadau hyn yn groew, a rhai eraill yn helïaidd, gerllaw i'w gilydd. Mae math arall o'r tarddiadau croew hyn yn bwrlymu o'u cwr yma neu eu cwr arall yn ddysbeidiol, bob

66

ychydig vunudau—rai yn tavlu prilliad yn lled uchel. Lle bo frwd lled grev yn ymwthio o geseiliau neu agenau yn y creigiau, a hono yn ddigon grymus i gerdded gryn bellder, gwelir pysgod ynddi, ond y frwd yn colli ac yn darvod yn raddol, neu y dwr yn nawsio i vod yn helïaidd fel y gwanycha'r llygad. Nodwedd ryvedd yw y frydiau anghyvlawn hyn—lawer ohonynt heb na dechreu na diwedd, a elwir ar lavar gwlad yn "hen welyau ". Dichon mai arllwysveydd y tymhorau gwlawog ydynt, ac yna yn madreddu yngwres yr haul nes bod y naws heliaidd ar eu dyvroedd merw oddiwrth yr halltedd sydd yn y tir. Gyda minion y merw—ddwr hwn tyv cyrs a hesg, ac y mae yn gyrchva i lawer o ednod gwyllt.

Ve ddeallir oddiwrth hynyna mai elven vawr hanvodol y Diriogaeth yw Dwr. Lle bynag y mae dwr yn y cyraedd, yno yw cyrchva dyn ac anivail. O gadwen vynyddig yr Andes lliva dyvroedd lawer—y tu gorllewinol (Chili) wlawogydd trymion aml, nes bod y wlad hono (o'i chanol i'w de) wedi ei mwydo'n barhaus. Peth o'r gwlawogydd hyny ddelir gan vrigau yr Andes a livant i lawr y llethrau dwyieiniol, ac a ireiddiant wregysau tyvianus tiriogaeth Chubut: eithr, ysywaeth y son, mae llaweroedd o'r frydiau hyny wedi medru y fordd yn ol i'r gorllewin (Chili) i'r avonydd mawrion sydd wedi ymwthio drwy vylchau yn yr Andes i wneud eu ffordd i'r Tawelfor. Pe buasai yr holl avonydd mawrion hyny i'r dwyrain (yn lle i'r gorllewin), newidiasid holl wedd tiriogaeth Chubut. Daethai avonydd mawrion y Caranlewfu a'r Corcovado (Batu—Palena) i ymyl Bro Hydrev, ond troant yn ol i'r Tawelvor yn ddyvroedd aruthr. Mae llynoedd mawrion Nahuel—huapi a Fontana, a tharddion y Chubut, gerllaw Chili, ond rhedant i'r dwyrain yn yr avonydd mawrion Rio Negro, Chubut, a Sin—gyr. Hawdd olrhain vel y llivai'r Corcovado i'r dwyrain mewn cyvnod daiaregol cymarol ddiweddar iawn, gan gyvuno gyda'r Chubut tua Teca.

Rhwng y Rio Negro (lled. 41°) a'r Chubut (lled. 43.15), nid oes frydiau rhedegog (oddigerth gwregys iraidd y Limay) ynhiriogaeth briodol Chubut. Velly y mae gogleddbarth y wlad, y tu hwnt i Banau Beiddio (hyd. 69°), yn gyvres o beithiau rhywiocach na'r peithiau deheuol: a chan hyny wedi bod yn gyrchvaoedd mawrion i'r brodorion gyda'u haniveiliaid ac i hela.

Mae un nodwedd ddaearyddol arbenig ar ddeheubarth y diriogaeth, sev Llynoedd Kolwapi ac Otron, lled. 45.50, ac o vewn rhyw 50 milldir i'r Werydd. Dangosir ar y mapiau megys petai amryw lynau eithr nid ydynt ond sych—lynau ag weithiau haenen deneu o ddwr ar eu manau isav. Ond mae y ddau lyn (Otron a Kolwapi) yn perthyn i'r avon grev Sin—gyr y cyntav yn gronva greigiol o ddyvroedd gloywon, a pheth gover yn rhedeg ohono dros erchwyn ddwyreiniol i'r Sin—gyr, lle y gwna'r tro wrth anelu i'r badell vawr sydd yn myned dan yr enw

Kolwapi—enw brodorol yn arwyddo cwdyn neu dderbynva. Pan vydd y Sin—gyr yn grev bydd llyn Kolwapi yn gryn 60 milldir o amgylchedd. Ond dywedir ei vod ar adegau yn gwbl sych; tra hyny o ddyvroedd liva o'r Sin—gyr yn ymgolli yn y corsydd canghenog rhwng hyny ag Otron. Ar gyver arllwysva'r Sin—gyr y mae vel petai barhad o'r avon yn myned yn ei blaen o'r llyn, ond mewn gwely llai lawer, ac yn myned dan yr enw Iámacan. Pan sycho Kolwapi, ganol a diwedd hav, a gwyntoedd cryvion y tymor yn codi y llaid sych yn lluwchveydd tomenog nes tagu bala yr Iámacan, neu ymlunio yn gorsydd merw, mor belled ag y bo pwysau digonol i wthio'r avon ar ei gyrva tua'r Chubut. Tua haner fordd yr Iamacan i'r Camwy y mae pantle mawr, yn agor oddiyno am y môr yn y man elwir Camerones: ar waelod y pantle mawr hwnw, gysylltai yr Iamacan â'r Camerones, y mae rhedwely heliaidd yn arwain i'r môr, yn ol vel y bydd tymorau gwlawog a'r tarddiadau oddiar y llethrau yn ymarllwys i'r pantle.

yr

Megys i acenu y sylwadau blaenorol parthed oll—bwysigrwydd "elven deneu ysblenydd" DWR mewn tiriogaeth sech vel y Wladva, rhoddir yma rai dyvynion o lawlyvr D. S. Davies am y gelvyddyd o ddyvrhau:—

"Ceir drwy ddyvriad lawer mwy o gnwd, ac yn vwy cyson— bob blwyddyn yn ddifael, a gellir poblogaeth luosocach ar bob milltir, a gwell iechyd nag a geir mewn un wlad ar y ddaear ag sydd yn dibynu ar y gwlaw am ei chynyrch.

"Y mae y tir o vath ag sydd yn derbyn gwres yr haul i ddyvnder mawr, a pheth o'r dyvnder hwn heb ond ychydig neu ddim lleithder, nid yw y gwres yn cael ei vwrw allan na'i leihau, eithr gwasanaetha velly i gynhesu y rhan a leithir gan ddyvriad, a'r amod hwn sydd yn rhoddi tyviant heb vawr o rwystr gan nad oes nemawr ddyddiau cymylog, niwliog, oer, na llaith. Wedi i'r gwenith gael ei ddyvrio yn ddigonol, ac iddo gael pen da, atelir y dwvr, i'r gwenith gael aeddvedu y mae'r gwaith hwn yn myned rhagddo yn ardderchog. Nid oes tywydd gwlawog i achosi y rhwd, na nosau oerion, llaith yn aravu dadblygiad y grawn trwy ei grebychu na'i vallu; ac â'r gweithrediad feryllol ymlaen yn ddirwystr i vuddugoliaeth."

"Yn Nhiriogaeth Utah y mae dyvriad wedi cyraedd y llwyddiant mwyav yn America. Y mae diwydrwydd medrus a phendervynol y Mormoniaid wedi gwneud i'r "anialwch vlodeuo megis rhosyn." Yn Great Salt Lake City, mae'r frydiau o'r mynyddoedd wedi cael eu dysgu i redeg trwy yr ystrydoedd, i vaethu eu coed cysgodol, a dylivo eu gerddi, a'u maesydd a vlodeuant o frwythlonder. Arwynebedd cyvrivedig y tiroedd

aradwy yw 268,000 o erwau, yr hyn, yn ol 640 enaid ar bob milltir petrual o dir dyvredig, a roddai gynhaliaeth i 402,000 o drigolion, ar gynyrch amaethyddiaeth. Dyvrir 134,000 o erwau —yr oll a drinir."

"Yn California gwelais gamlesi dyvriol wedi cael eu hagor gan y brodorion, dan gyvarwyddyd y Cenhadau Jesuitaidd. Ymhob Cenhadaeth Baby idol y mae y camlesi yn ymestyn am villtiroedd dros dir na chynyrchodd ddim cyn i'r frydiau advywiol hyn gael eu gollwng ar led drosto. Mae dylanwad cyfrous yr aurgloddiau, am beth amser, wedi aravu dadblygiad adnoddau amaethol California; ond nid yw yr amser ymhell pan y bydd yr oes euraidd" yn gwelwi o vlaen cyvundrevn berfaith o Ddyvriad; oblegid y mae hinsawdd, a gweryd, a dwvr y Dalaeth yn neillduol addas at hyny. Dygir proviad y mwnwyr ynhrosglwyddiad dwvr i wasanaeth amaethyddiaeth. Troir y dwvr sydd wedi ei groni gan natur i vaethu crasdir dyfrynoedd y Sacramento a'r San Joaquin, gan gyvoethogi yr amaethwr yn vwy na'r mwnwr.

66

"Yr unig ddyogelwch i amaethyddiaeth yn California yw mabwysiad cynllun eang o Ddyvriad, a'r unig ddyogelwch rhag newyn. Dim ond 20 modvedd o wlaw sydd yn disgyn_yn California, pan y mae yn vwy na dwy waith hyny yn y Talaethau Dwyreiniol ac yn Ewrop,"

66

Italy yw gwlad glasurol y gelvyddyd o Ddyvrio. Yno y mae peirianaeth ddyvriol yn cael ei dysgu vel celvyddyd, a'i hanrhydeddu vel profeswriaeth. Yn Turin y mae priv Athrova y gelvyddyd: a cherllaw y mae cyvundrevn eang o ddyvriad; ceir velly gyvleusderau i'w dysgu yn ymarverol. Mae yr Eidaliaid presenol wedi rhoddi eu sylw yn vwy i ddyvriad tiroedd aradwy; a chanddynt hwy y mae y gyvundrevn berfeithiav o ddyvriad o bawb yn Ewrop. Camlas Ticinio yw bywyd Lombardy, ac y mae yn gweithio er ys 600 o vlyneddoedd. Ac y mae y wlad hono yn un o'r gyvoethocav a mwyav poblog a welodd y byd erioed. Yn Piedmont hevyd, mae y rhandir ddyvredig yn viliwn a haner o erwau."

"Parodd y newyn yn India Brydeinig i'r Llywodraeth ymgymeryd âg adeiladu camlesi dyvriol. Y penav o'r gweithiau hyn yw Camlas y Ganges, agos 1000 o villdiroedd o hyd. Cymer hyn o'r avon Gysegredig 8000 troedvedd cubaidd yr eiliad o ddwvr. Y mae y llavur hwn wedi cael ei wobrwyo yn helaeth yn ngwareiddiad y bobl, yn y gwelliant mawr yn eu cyvlwr iechydol, a'r cynydd anverthol yn y cyllidau i'r Llywodraeth oddiwrth ardreth y tir a'r dwvr. Drwy y rhwydwaith ddyvriol hon, darostyngwyd 11,102,048 o dir gwyllt, difrwyth ac aviachus.