Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/215

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Yr oedd y draul yn £1,500,000, a'r elw ar ol 'talu pob treuliau, rhoddi cyllid i'r Llywodraeth o 23 y cant.

yn

"Anialwch o dywod a chwerwyn (sage brush) oedd y Salt Lake Basin, Utah, pan sevydlodd y Mormoniaid yno ddwy vlynedd—ar—hugain yn ol; ond trwy ddyvriad a gwrteithiad y mae rhan vawr o'r dyfryn wedi ei wneud yn gyvartal o ran frwythlondeb, i diroedd brasav y Talaethau Dwyreiniol.

"Pan aeth y Mormoniaid yno gyntav, nid oedd coed na phrysgwydd yn tyvu lle mae Dinas y Llyn Halen. Trwy eu dyvriad efeithiol, addurnir y lle yn awr â niver mawr o goed locust a chotwm. Ceir y cyntav o'r had, a thrawsblenir y llall o'r mynyddoedd. Mae gan bob heol yn y ddinas ei frwd o ddwvr, a dyvrir pob gardd yn y ddinas yn rheolaidd dan gyvarwyddyd swyddogol."

"Yn ychwanegol at y sicrwydd am gnydau rheolaidd, y mae cynyrch tiroedd dyvredig yn vwy na chynyrch tiroedd eraill (trwy wlaw) o un ran o bedair i un ran o dair. Mewn hinsawdd dymherus y mae y cynhauav yn cael ei osod allan o gyraedd dylanwad y tymhorau.

"Nid yw tiroedd dyvredig byth yn rhedeg allan. Braseir hwynt yn awr yn rheolaidd gan waddodion. Mae y pwnc o iachusrwydd a moesoldeb wedi cael ei brovi yn voddhaol yn niwylliant ac adveriad llanerchau difrwyth yn India, lle mae pobloedd lluosog wedi cael eu dwyn o gyvlwr o drueni, a newyn a gwrthryvel, i sevyllva o iechyd, boddlonrwydd, a llwyddiant, trwy y cnydau toreithiog a gynyrchir gan Ddyvriad.

"Yn Italy, lle y cedwir covriviad, y mae cynydd y boblogaeth yn y parthau dyvredig yn 50 y cant yn vwy nag ydyw yn y parthau sydd yn dybynu ar y gwlaw. Gellir priodoli lluosogrwydd mawr y Chineaidi helaethrwydd eu cyvlenwadau o ddwvr.

Yn elvenol gellid dosranu Daeareg y Diriogaeth:—(1) Cadwen vawr yr Andes, megys asgwrn cevn; (2) Y gwaenydd godreuol wrth y rheiny, vuont dan waddodion a dylivion, ac a gavniwyd ac a rychwyd wedi eu codiad; (3) Y canolbarth bryniog, creigiog, toredig, gyda chymalau ac ymylon o'r paith; (4) Y peithiau eang, unfurv, wedi eu llivio a'u sgwrio yn gymoedd priddog a chleiog, a'u malurion yn crynhoi tua'r gwaelodion; (5) Creigiau llosgvalog (volcanic) gwahanedig yma ac acw drwy y furviad paith godent yn fyrnau byw ar adegau; (6) Yr arvordir vel dangoseg o'r gweithrediadau.

Wrth vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych a sevydlog n raid dyvalu nemawr am y driniaeth vu ar y wlad. Gwres haul cryv mewn gwlad sych, a rhew miniog ar adegau, a rhuthr o

wlawogydd yn ymdywallt weithiau ar lethrau ac i bantiau— dyna'r saernïaeth y bu'r wlad dano. Ar yr uch—wyneb graianog presenol y mae megys petai mewn argraf mai gwaelod môr ydoedd yn ei grynswth, táw ar y gwyneb hwnw ceir cyfion coed envawr wedi ymgaregu yn eu corfolaeth, 12 i 15 llath o hyd, yn brenau preifion di—geingciau; a thalpiau drylliedig ohonynt dros lawer o wlad, ac mewn amryw furviau. Yna mae yr haen drwchus o gleigraig (soap—stone Darwin) o vilionos, morol wedi bod a rhan aruthrol yn y furviadau o'r arvordir i lethrau yr Andes, yn rhimynau gwynion, neu liwiau eraill, ac o amryw furviau a graddau. Gyda'r tosca hwn y mae cregyn wystrys fosylog aruthr o vaintioli: tra ar ben uchav bryncynau neu bigyrnau o baith y mae cregyn wystrys llai a meddalach, yn gystal hevyd a chregyn gleision lled debyg i'r rhai presenol. Gyda'r rhai olav hyn y mac llavnau a chlapiau o gypsum yn disgleirio'n llachar yn yr haul, neu wedi ymdorchi i lawer furv a modd, ond oll yn awgrymu yr halen elai i'w cyvansoddi. Gyda'r malurion morol hyn ceir tomeni o ddanedd siarcod a moelrhoniaid, yn gymysg âg esgyrn pysgod o amrywiol vathau, ond rhai ohonynt heb vod yn ddyeithr iawn. Mewn manau eraill ceir fosylau neu vrisg o greaduriaid lleidiol, a rhai ereill tiriol yn byw ar wellt a gwreiddiau. Arbenigir un o'r rhai hyn gan y naturiaethwr Almaenig enwog Burmeister, vel y ddolen oedd yn cydio y cefyl yn ei ragvlaenor fosylaidd cyn iddo vagu y carn cyvlawn.

Ar gyfiniau y Télsun y mae arwyddion amlwg o gynhyrviadau llosgvalog enbyd —y bryncynau min y paith vel rhesi o simneiau pigyrnol a'u crateri yn agored, lle mae cavnau o ddwr gloyw yn ffynonau i'r gwanacod. Yr uch—baith gerllaw a orchuddir o dalpiau o geryg duon llosgedig, ac o'u deutu yn orchuddiedig o ddarnau crisial a lludw du. Beth yn nes i'r gogledd y mae nant lled grev (Nant Egwyl), a chyda minion y frwd y mae yslaven werdd, debyg a vo'n codi oddiar ryw gyfyrddiad copraidd—tra gwahanol i'r yslaven heliaidd gyfredin i'r paith.

Yn yr un cym'dogaethau ag uchod y mae mynydd Pitsaláw, o ryw vath o galchvaen laswerdd: ac o'r naill du iddo ddwy fynon y barnai gwyddonwr a'u provodd vod rhyw olew carbonaidd ynddynt. Ychydig i'r gorllewin oddiyno mae y dywodvaen goch newydd: ac ar odreu Banau Beiddio, heb vod ymhell o'r un ardal, y mae marmor gwyn yn brigo ar lawer man yno. Tua'r Iámacan y mae talpiau o obsidian du caled iawn. Hwnt i gwr uchav dyfryn Kel-kein y mae haen ddu, elwid Havn—y—glo am y tybid vod trysor du yno. Yna ar draethau Ꭹ môr yn New Bay y mae tywod du trwm iawn, yn rhedeg yn rhimynau, y . gelwir manganese arno: ceir yr un tywod du trwm ar ddyfryn y Camwy.

Rhestrir yma vel hyn rai dichonolion mwnol, vel awgrymion daearegol am y wlad.

Pan giliodd y môr oddiar y paith presenol, gadawodd ar ei ol lawer o naws heliaidd yn y ddaear, ac wrth mai ychydig wlaw mewn cydmariaeth sydd yn disgyn yno nid yw yr halen yn cael ei sgwrio allan i'r avonydd. Gan hyny y mae y vetel drom halen yn ymgeulo mewn llynoedd a fosydd alkalaidd, gan sychu yn yr haul hav, eithr i doddi drachevn pan syrthio gwlaw, os na vydd digon o rym yn y llivogydd i sgwrio'r heli i'r avonydd rhedegog. Pan ddeuir i gyfiniau'r Andes y mae halen yn beth mor amheuthyn vel y mae'r aniveiliaid yn chwilena am bob naws ohono gafont: a chludir peth ohono yno o'r llynoedd halen agosav i'w roi i'r daoedd, am yr ovnir vod prinder ohono yn cadw daoedd heb besgi gystal.

Rhoddir yma erthygl gyhoeddodd naturiaethwr Frengig, deithiasai yn ddiweddar dros ranau o diriogaeth Santa Cruz, sydd yn ddamcanaeth ddaearegol ddeallus am y wlad o Rio Negro i gydvor Machelan—cymwysadwy at diriogaeth Chubut.

"Adeg bell yn ol, ni vodolai y Tiriogaethau Cenedlaethol a elwir Patagonia. Lle yn awr y rhed y brodor a'r wanaco a'r estrys, rhedai tonau y môr nes golchi traed yr Andes. Ond môr bas ydoedd, a'i waelod yn graddol godi, nes o'r diwedd iddo ddyrchavu goruwch y dwr, ac wele dir newydd. Yna planhigion a chreaduriaid a ddaethant i lawr o'r mynyddoedd ac o'r gogledd, a dechreuasant gartrevu ar y gwastadedd newydd. Yr oedd yr hinsawdd yn dyner, ac nid oedd yr Andes mor uchel ag ydyw yn awr. Heidiai yr avrived vathau lawer o greaduriaid a vywient yn y llysieuaeth ronge orchuddiai y wlad. Ymhlith y Mamodiaid y rhai penav oeddynt Gedogion, tebyg i kangarw Awstralia: a chyda hyny 'epenlates, pachyderms a rodents'a'r rhai olav hyn yn anverthol vawr, tebyg i'r Megamys ddarganvyddwyd gan d'Orbigny yn Ross Bay—llygoden gymaint ag elephant. Nid oedd y tir yn uchel uwch y môr, a rhedai cilvachau lawer o'r arvordir allanol. Nid oedd brinder dwr croyw chwaith. Er na vodolai y llynoedd mawrion presenol— Viedma, Santa Crws, &c., eto yr oedd pantleoedd corsiog, bas, yn britho y gwastadedd. Yn yr Andes chwydai llosg—vynyddoedd vwg a thân a malurion, a chludid y rhai olav hyn gan yr avonydd i'r pantleoedd a'r môr. Tebyg iawn hevyd y gwlawiai, ar adegau, luwchveydd llosg—ludw vel geir yn awr, ond yn amlach a thrymach y pryd hwnw. Parhaodd pethau vel hyn yn hirhir, hyd nod i ddaeareg. Yna daeth cyvnod arall yn lle mai mynyddoedd yr Andes yn unig oedd yn llosgi a lluchio, torai y chwydion allan yn nes i'r môr,—gymaint velly vel y gorchuddiwyd llawer rhanbarth gyda'r lava ulw hwnw ddeuai allan o'r

P

ddaear. Yna dyrchavwyd yr holl wlad yn arav, arav: a'r Andes a gododd yn uwch a mwy trwch: eira a arosai ar eu copa a'u llechweddi, a gwyntoedd oerion ddechreuasant ysgubo dros y gwastadedd. Yna y meusydd ia yn y cymoedd a'r ceselion ddelent vwy—vwy, yn enwedig ar yr ochrau dwyreiniol: llithrent yn arav tua'r gwaelodion, nes dyvod ar draws y gweryd a'r İludw ymgrynhoasai yn y gwastadeddau: ond nid arosasant yno eu pwysau anverth a'r malurion yn eu crombil a wnaent bantiau dirvawr yn y ddaear, y rhai ydynt yn awr welyau y llynoedd sydd yn y cydiad rhwng godreu yr Andes a'r gwastadedd: ac oddiyno rhai ohonynt a wthient eu gyrva tuag arvordir y Werydd: carient ar eu cevnau ac yn eu crynswth y cerig gasglasent yn yr Andes: lle bynag yr elent, rhychent wyneb y ddaear, hyd nod y lava nis ataliai hwynt: lle buasai glynoedd, avonydd, neu gorsydd, hwy a'u cavnient yn ddyfrynoedd dyvnion a llydain, y rhai drachevn a haner lanwent gyda chynwys eu crombil rhewedig. Yr oedd yr hinsawdd wedi newid evallai nad oedd ryw lawer oerach nag yn awr, ond nid oedd mwyach yn addas i'r llysiau a'r creaduriad wnaethent eu cartrev ar y gwastadeddau. Yna gwastadeddau Patagonia—o chwith i'r hyn sydd yn myned ymlaen yn awr a ddechreuasant ostwng eilwaith, nes o'r diwedd i'r holl ddwyreindir y wlad vyned drachevn dan ddyvroedd y môr, oddigerth, hwyrach, benau rhai o'r bryniau a'r mynyddau llosgval, y rhai a ymddangosent vel ynysoedd ar wasgar yma ac acw. Dyvroedd y môr a gurent yr hen valurion ddygasid gan y meusydd ia, ac a'u malent yn gerygos a graian: llyvnent ymylon y creigiau a chlogwyni, a gwasgarasant yr holl raian a thywod a cherygos dros wyneb y paith mawr lle y maent hyd y dydd heddyw. Nid ymddengys ddarvod i vawr vywyd fynu yn y môr hwnw: evallai am vod yr hinsawdd yn rhy oer eto, ac nid oedd y ceryg rolient ar y gwaelodion yn gwneud y lle yn vanau addas wersyllva i gregin—bysg. Casglu hyn yr wyv wrth nas gwn am ddim fosylau wedi eu cael ar yr haen hon. Yna ciliodd y môr drachevn, pryd y dechreuodd y codiad tir sydd yn myned yn mlaen yn ein dyddiau ni. Nid ymddengys vod y codiad hwn yn gyson barhaus, eithr weithiau yn aravu, ac ar brydiau yn peidio; ac o hyny y mae'r gyvres grisiau o raian a cherygos a geir ar y dyfrynoedd—olion traethau blaenorol. Y mae soddiad yr arvordir ar ochr Chili wedi ei vesur yn vanwl drwy'r blyneddoedd, a cheir ei vod yn saith ran o ddeg o vodvedd bob blwyddyn. Y mae'r ochr ddwyreiniol yn codi hevyd, a hyny yn gyvlymach. Yn Mhorth Gallegos y mae llawer o draeth ymhell o gyraedd y môr yn awr: nid oes dim llysieuaeth wedi cychwyn byw arno: ond y mae ei gydiad wrth y traeth presenol yn ddi—dor gwbl. Velly teg ydyw casglu vod y llain hwn wedi myned yn llwyr o gyraedd y môr, drwy godiad graddol y tir yn y van

hono. Gwelais govnodiad o eiddo y Rhaglaw Fontana, am y llong "Union," gollasid yn agos i aber yr avon Chubut, gweddillion yr hon ymhen 5 mlynedd oeddynt 6 troedvedd yn uwch na lyvel uchav y môr. Yn Mhorth Aethwy aethai llong ar dân, a phan losgodd at vin y dwr, suddodd i'r gwaelod; mae y gweddillion hyny yn awr ddwy sgwar, 300 llath, oddiwrth van uchav y llanw. Velly, yr wyv yn tynu y casgliad, vod seildir yr Andes wedi ei ddyrchavu ar un cyvnod, nes bod awelon llaith y môr yn tewychu ar eu llethrau, gan beri llawer mwy o eira nag sydd yno yn awr: a'r canlyniad ydoedd—mwy o eira mwy nerthol vyth, a meusydd ia.

Mae'n amlwg vod dwyrain Patagonia dan y môr yn y cyvnod Eosin ond mai môr bas ydoedd a ddangosir gan y gwelyau wystrys mawrion adawodd yn fosylau, y rhai nad ydynt byth breswylwyr môr dwvn. Gyda'r fosylau wystrys ceir gweddillion Mamodion, yn dangos vod y gwaelod wedi codi yn dir, lle y trigodd creaduriaid mamaethol, nodwedd y rhai a brovant vod yr hinsawdd y pryd hwnw yn llawer tynerach nag yn awr—nad ysgubai gwyntoedd oerion o'r Andes vel yn awr, gan nad oedd y mynyddau hyny mor ucheled. Oddiwrth fosylau creaduriaid y cyvnod, hawdd barnu vod y tyviant y pryd hwnw yn rhonge a bras: llawer o bryvaid yn ymborth i'r dulogiad aruthrol a vodolent, y rhai yn eu tro a vywient ar lysiau. Vod yr arvordir yn vrith o gilvachau a brovir gan y mathau wystrys a hofant ddyvroedd llonydd. Mewn rhai manau y mae esgyrn Mamodion wedi eu haenu mor reolaidd a manwl, vel y gellir darllen eu bod wedi eu claddu gan ludw llosgval mewn dyvroedd tra llonydd. A chyda hwynt y mae gweddillion pysgod dwr croyw, yr hyn ddyry sail i veddwl vod llynoedd beision mawrion ar y gwastadeddau, ac avonydd arav yn cerdded rhyngddynt y rhai olav hyn yn dwyn gyda hwynt benglogau creaduriaid cevnol, haws i'w treiglo na'r aelodau. Yr oedd lludw llosgvalog yn nodwedd arbenig o'r Cyvnod Trydyddol, ac yn dra manteisiol i gladdu a fosylu unrhyw weddillion. Hysbysir vi gan Greenwood, idao ev unwaith yn ddiweddar, vod allan dan y vath gawodau o'r lludw hwn, ger Llyn Viedma, vel y bu ei gefylau am dri niwrnod yn methu cael blewyn o borva i'w vwyta. Mae yr haen lava ddiweddar yn union ar ben yr esgyrn Mamodiaid: a dan hyny y gwely gwyn fosylog trwchus o dosca—yn gap ar yr oll y mae tywod a graian cerygos yr arwyneb. A'r un mor amlwg yw vod y Cyvnod Ia ar ol y Cyvnod Lava, gan vod ol yr ia ar y lava.