Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/216

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wlawogydd yn ymdywallt weithiau ar lethrau ac i bantiau—dyna'r saernïaeth y bu'r wlad dano. Ar yr uch-wyneb graianog presenol y mae megys petai mewn argraf mai gwaelod môr ydoedd yn ei grynswth, táw ar y gwyneb hwnw ceir cyfion coed envawr wedi ymgaregu yn eu corfolaeth, 12 i 15 llath o hyd, yn brenau preifion di-geingciau; a thalpiau drylliedig ohonynt dros lawer o wlad, ac mewn amryw furviau. Yna mae yr haen drwchus o gleigraig (soap-stone Darwin) o vilionos, morol wedi bod a rhan aruthrol yn y furviadau o'r arvordir i lethrau yr Andes, yn rhimynau gwynion, neu liwiau eraill, ac o amryw furviau a graddau. Gyda'r tosca hwn y mae cregyn wystrys fosylog aruthr o vaintioli: tra ar ben uchav bryncynau neu bigyrnau o baith y mae cregyn wystrys llai a meddalach, yn gystal hevyd a chregyn gleision lled debyg i'r rhai presenol. Gyda'r rhai olav hyn y mac llavnau a chlapiau o gypsum yn disgleirio'n llachar yn yr haul, neu wedi ymdorchi i lawer furv a modd, ond oll yn awgrymu yr halen elai i'w cyvansoddi. Gyda'r malurion morol hyn ceir tomeni o ddanedd siarcod a moelrhoniaid, yn gymysg âg esgyrn pysgod o amrywiol vathau, ond rhai ohonynt heb vod yn ddyeithr iawn. Mewn manau eraill ceir fosylau neu vrisg o greaduriaid lleidiol, a rhai ereill tiriol yn byw ar wellt a gwreiddiau. Arbenigir un o'r rhai hyn gan y naturiaethwr Almaenig enwog Burmeister, vel y ddolen oedd yn cydio y cefyl yn ei ragvlaenor fosylaidd cyn iddo vagu y carn cyvlawn.

Ar gyfiniau y Télsun y mae arwyddion amlwg o gynhyrviadau llosgvalog enbyd—y bryncynau min y paith vel rhesi o simneiau pigyrnol a'u crateri yn agored, lle mae cavnau o ddwr gloyw yn ffynonau i'r gwanacod. Yr uch—baith gerllaw a orchuddir o dalpiau o geryg duon llosgedig, ac o'u deutu yn orchuddiedig o ddarnau crisial a lludw du. Beth yn nes i'r gogledd y mae nant lled grev (Nant Egwyl), a chyda minion y frwd y mae yslaven werdd, debyg a vo'n codi oddiar ryw gyfyrddiad copraidd—tra gwahanol i'r yslaven heliaidd gyfredin i'r paith.

Yn yr un cym'dogaethau ag uchod y mae mynydd Pitsaláw, o ryw vath o galchvaen laswerdd: ac o'r naill du iddo ddwy fynon y barnai gwyddonwr a'u provodd vod rhyw olew carbonaidd ynddynt. Ychydig i'r gorllewin oddiyno mae y dywodvaen goch newydd: ac ar odreu Banau Beiddio, heb vod ymhell o'r un ardal, y mae marmor gwyn yn brigo ar lawer man yno. Tua'r Iamacan y mae talpiau o obsidian du caled iawn. Hwnt i gwr uchav dyfryn Kel-kein y mae haen ddu, elwid Havn-y-glo am y tybid vod trysor du yno. Yna ar draethau y môr yn New Bay y mae tywod du trwm iawn, yn rhedeg yn rhimynau, y gelwir manganese arno: ceir yr un tywod du trwm ar ddyfryn y Camwy.