ddaear. Yna dyrchavwyd yr holl wlad yn arav, arav: a'r Andes a gododd yn uwch a mwy trwch: eira a arosai ar eu copa a'u llechweddi, a gwyntoedd oerion ddechreuasant ysgubo dros y gwastadedd. Yna y meusydd ia yn y cymoedd a'r ceselion ddelent vwy-vwy, yn enwedig ar yr ochrau dwyreiniol: llithrent yn arav tua'r gwaelodion, nes dyvod ar draws y gweryd a'r lludw ymgrynhoasai yn y gwastadeddau: ond nid arosasant yno eu pwysau anverth a'r malurion yn eu crombil a wnaent bantiau dirvawr yn y ddaear, y rhai ydynt yn awr welyau y llynoedd sydd yn y cydiad rhwng godreu yr Andes a'r gwastadedd: ac oddiyno rhai ohonynt a wthient eu gyrva tuag arvordir y Werydd: carient ar eu cevnau ac yn eu crynswth y cerig gasglasent yn yr Andes: lle bynag yr elent, rhychent wyneb y ddaear, hyd nod y lava nis ataliai hwynt: lle buasai glynoedd, avonydd, neu gorsydd, hwy a'u cavnient yn ddyfrynoedd dyvnion a llydain, y rhai drachevn a haner lanwent gyda chynwys eu crombil rhewedig. Yr oedd yr hinsawdd wedi newid evallai nad oedd ryw lawer oerach nag yn awr, ond nid oedd mwyach yn addas i'r llysiau a'r creaduriad wnaethent eu cartrev ar y gwastadeddau. Yna gwastadeddau Patagonia—o chwith i'r hyn sydd yn myned ymlaen yn awr a ddechreuasant ostwng eilwaith, nes o'r diwedd i'r holl ddwyreindir y wlad vyned drachevn dan ddyvroedd y môr, oddigerth, hwyrach, benau rhai o'r bryniau a'r mynyddau llosgval, y rhai a ymddangosent vel ynysoedd ar wasgar yma ac acw. Dyvroedd y môr a gurent yr hen valurion ddygasid gan y meusydd ia, ac a'u malent yn gerygos a graian: llyvnent ymylon y creigiau a chlogwyni, a gwasgarasant yr holl raian a thywod a cherygos dros wyneb y paith mawr lle y maent hyd y dydd heddyw. Nid ymddengys ddarvod i vawr vywyd fynu yn y môr hwnw: evallai am vod yr hinsawdd yn rhy oer eto, ac nid oedd y ceryg rolient ar y gwaelodion yn gwneud y lle yn vanau addas wersyllva i gregin-bysg. Casglu hyn yr wyv wrth nas gwn am ddim fosylau wedi eu cael ar yr haen hon. Yna ciliodd y môr drachevn, pryd y dechreuodd y codiad tir sydd yn myned yn mlaen yn ein dyddiau ni. Nid ymddengys vod y codiad hwn yn gyson barhaus, eithr weithiau yn aravu, ac ar brydiau yn peidio; ac o hyny y mae'r gyvres grisiau o raian a cherygos a geir ar y dyfrynoedd—olion traethau blaenorol. Y mae soddiad yr arvordir ar ochr Chili wedi ei vesur yn vanwl drwy'r blyneddoedd, a cheir ei vod yn saith ran o ddeg o vodvedd bob blwyddyn. Y mae'r ochr ddwyreiniol yn codi hevyd, a hyny yn gyvlymach. Yn Mhorth Gallegos y mae llawer o draeth ymhell o gyraedd y môr yn awr: nid oes dim llysieuaeth wedi cychwyn byw arno: ond y mae ei gydiad wrth y traeth presenol yn ddi-dor gwbl. Velly teg ydyw casglu vod y llain hwn wedi myned yn llwyr o gyraedd y môr, drwy godiad graddol y tir yn y van
Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/218
Prawfddarllenwyd y dudalen hon