Dewiswyd ev (R.) yn llywodraethwr: gan ystyried talaeth vawr Buenos Ayres yn benav a phwysicav, ac ymddiried iddi y reolaeth dramor.
Eithr yn 1835 daeth Rosas i arlywio yr holl wlad, a gwnai hyny mewn enw o vod yn gyngreiriol, vel cynt. Ond yr oedd berygl bywyd i'r rhai alwent eu hunain yn Werinwyr, neu Unolwyr, ac aeth lluoedd o'r rheiny yn aberth i wleidiadaeth y dyddiau hyny. Parhaodd yr ormes drom hon 17 mlynedd.
Yn 1852—wedi cael gwared o Rosas—eiddigeddodd y taleithau eraill wrth y briv dalaeth (Buenos Ayres), a daeth Urquiza a Derqui i lywodraethu, ar linellau gwerinol mewn enw, ond o ogwydd gyngreiriol, dalaethol.
Erbyn 1861 ovnid vod yr elven gyngreiriol daleithol yn sathru ar uchaviaeth talaeth Buenos Ayres. Y Cadvridog Mitre oedd rhaglaw y dalaeth vawr hono ar y pryd: a rhag ovn i Derqui ac Urquiza dd'od ar warthav ei dalaeth ev, cynullodd vyddin, ac aeth i'w cyvarvod, yn agos i linell dervyn ei dalaeth, lle yr ymladdodd vrwydr Pavon. Oddiar y vrwydr hono y dechreua hanes trevnus y Weriniaeth. Cytunwyd i vyw yn Weriniaeth deuluol o 14 talaeth hunan—reoledig, ond o gyd—ryw drefniadau, a'r oll yn yr un rhwymyn allanol cyfredinol.
Velly, yn 1862, etholwyd Mitre yn arlywydd y Weriniaeth oll—neu yn hytrach, vel y mynid galw y wladwriaeth o hyny allan—" Y Genedl Arianin " — a'i olynwyr rheolaidd i'w hethol bob 6 blynedd. Oddiar hyny hyd yn awr, gwnaed velly yn gyson, er nad heb, lawer tro, chwildroadau a thervysgoedd gwaedlyd mewn amryw ranau o'r wlad.
Tra yr oedd Urquiza a Derqui yn rheoli, dinas Paraná (o'r un enw a'r avon vawr) oedd eisteddle y Llywodraeth; ac oddiyno y bu'r ohebiaeth gyntav ynghylch y Wladva Gymreig. Ond pan ddewiswyd Mitre yn arlywydd, cymerid mai Buenos Ayres oedd y briv ddinas—er y bu blyneddoedd cyn y cytunwyd i hyny yn furviol. Yn ystod yr arlywyddiaeth hono—tra'r oedd yr elven gyngreiriol eto'n grev yn y taleithau allanol—pasiodd y Gydgynghorva (Congress) ar i Rosario gael ei neillduo a'i chydnabod vel priv ddinas y Genedl; ond dodes yr Arlywydd ei nage (veto) ar hyny, a gadawyd i dalm o vlwyddi vyn'd heibio cyn i'r mater dd'od ger bron drachevn. Eithr yn y 7—degau etholwyd Dardo Rocha yn rhaglaw talaeth Buenos Ayres, ar y ddealltwriaeth y dewisid dinas Buenos Ayres yn briv ddinas. Gan hyny, yn ystod ei raglawiaeth ev y troswyd y ddinas yn eisteddle a chartrev y Llywodraeth Genedlaethol; a'r un adeg, wrth gwrs, y crewyd dinas newydd "La Plata"—40 milltir o Buenos Ayres—i vod yn briv ddinas y dalaeth. Yr oedd yn perthyn i ddinas Buenos Ayres lawer o adeiladau cyhoeddus ac eiddo a buddianau eraill amrywiol. Gwerthwyd y rhai hyny i'r Llywodraeth Genedlaethol yn adeg y trosiad; a