Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/220

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXVI.

DINAS VAWR BUENOS AYRES, A RHAI DINASOEDD ERAILL.

Mae lle i ovni nad oes gan Brydeinwyr cyfredin nemawr syniad amgyfredol am y Weriniaeth Arianin, a llai na hyny am briv—ddinas, Buenos Ayres. [Sain briodol yr enw yw vel petai Gymraeg, pob llythyren yn cael ei seinio, ond mai sain w sydd i'r u yn Hispaenaeg].

Cyvrivir vod yn y ddinas dri chwarter miliwn o drigolion vwy nag yn Lerpwl neu Manchester.

Eithr nid yw hyny eto yn rhoddi dirnadaeth o vywyd a masnach y ddinas, na'i chyvoeth. Mae heolydd y ddinas yn union groes-ymgroes (rectangular), vel y maent yn blocks o dai unfurv: nid ydynt ond culion cymarol o led (eithr pell o vod mor gyvyng a heolydd Portugeaidd). Gynt nid oedd ond uchder lloft i'r tai, a nènau eu toau yn rhodiadwy: ond y mae bellach er's blyneddau uchderau o loftydd i'r adeiladau ynghanol y drev. Yn hyn mae y ddinas yn ymdebygu beunydd vwy-vwy i Paris,— neu hen Ruvain o ran gwychedd. Oherwydd vod canol y ddinas mor gyvyng, gwariodd y Gorforaeth viliwnau i agor mynedva lydan (avenue) drwy ganol y drev, gan brynu yr holl adeiladau, er vod y prisiad yn envawr. Hono yw mynedva neu rodva y ddinas—yn cyraedd o sgwar Swyddveydd y Llywodraeth, yn union am y gorllewin, ond yn forchi i'r ddau draws-gyveiriad ymhen rhyw villdir. Drwy y rhodva osgorddus hon y bydd holl ddangosion a rhodres a phomp y ddinas yn ymflamychu. Arweinia y vynedva odidog hon i Barc Palermo, cyrchva rwysgvawr y bonedd—ac ar y gwyliau lawer, y gwreng hevyd—i vwynhau y tywydd havaidd cyfredin i'r wlad.

Drwy agos bob un o'r mil heolydd croes—ymgroes hyn rhed y tramfyrdd yn ddibaid, gan udganu cornetau a gyru'r cefylau'n llawer cyvlymach nag y' Mhrydain.

Yna, mae y dociau cyvleus garthwyd o laid Avon Vawr y R. Plate, a'r gangen avrosgo ohoni luniwyd yn geiau tua Barracas. Mae yr agerlongau a'r llongau yn y dociau hyn, o bob parth o Ewrob ac Amerig, yn arwyddo masnach deilwng o Lerpwl: a chan nad yw mwg a niwl a gwlaw yn gordoi yr olygva ond anaml ceir syniad da am y dravnidiaeth.

Nid oes mo'r 40 mlynedd er pan wnaed y rheilfordd gyntav yn Buenos Ayres, sev yr un Orllewinol, o ryw 40 milldir, i drev Mercedes: ac ymhen rhyw 10 mlynedd wed'yn cychwynwyd pwt arall, o 50 milldir tua'r de, i Chascomus. A hono oedd