Mae i 14 talaeth y Weriniaeth eu priv ddinasoedd hevyd, a'r rheiny oeddynt henav: gan mai o Peru a Chili yr ymwthiai'r hen Hispaeniaid i veddianu'r wlad ganol, o'r Tawelvor, wedi iddynt, dan Pizaro, gael gavael ar aur ac arian y berveddwlad. Evallai mai Córdova yw yr un vwyav dyddorol ohonynt, vel hen eisteddle dysg a chrevydd y cyvnod hwnw, pan oedd y bobl yn dra pabyddol—ac eto o ran hyny i raddau.
Eithr i wybod manylion ac agweddau y dinasoedd taleithol hyny, byddai ovynol adrodd holl hanes y wlad o gwr bwygilydd —ac nid hyny yw amcan y crybwyllion hyn.
Nid perthyn i'r Weriniaeth Arianin y mae MONTEVIDEO, eithr yn rhan o Weriniaeth Uruguay, neu yr hyn a elwir Banda Oriental (y Tu Dwyreiniol). Ond y mae'r gyvathrach mor agos rhyngddynt, o ran hanes a masnach, vel yr edrychir arnynt agos yr un. Bu y ddinas hono unwaith ymeddiant y Prydeiniaid am gryn amser; a bu wedi hyny yn vaes ymgiprys fyrnig rhwng pleidiau gwleidyddol o ddau tu yr avon Plata: yn wir, byddai deall hanes cysylltiadau y ddwy wlad yn evrydiaeth ddyrys i ddyeithriaid, er mai yr un bobl yn ymarverol ydynt, gyda rhai traddodiadau cymysg Portwgeaidd a Rio Grande.
Erbyn hyn Montevideo yw porthladd hwylus y ddwy wlad, ac amryw gysylltiadau masnachol eraill yn galw am agerlongau cyvleus i redeg bob dydd, ac amlach, rhwng y ddwy ddinas.
CYVLEUSDERAU MORDAITH I'R WLADVA.
O ran cyvleusderau y vordaith o Vrydain i'r Wladva, nid oes bellach ball ar hyny. Mae agerlongau aml yn rhedeg am Buenos Ayres o Lerpwl, Llundain, neu Southampton, am brisiau gwahaniaethol pob graddau. Diau nad oes vordaith hyvrytach yn y byd na'r un ar draws y cyhydedd i Buenos Ayres neu Montevideo, a golygveydd harddach a newyddach i ddyeithryn mae'r vordaith ynddi'i hun yn adnewyddiad–tra gwahanol i groesi'r Werydd i Amerig. Gwneir y vordaith mewn 20 i 25 o ddyddiau.
Mae weithian agerlongau cyvleus yn galw yn y Wladva'n lled reolaidd—agerlongau y Llywodraeth, wrth vyned a d'od i diriogaethau'r De (Santa Cruz a Tierra del fuego). Gan mai amcan y Llywodraeth yw nawddogi y Tiriogaethau, ac nid elwa, mae y cludiad yn rhesymol iawn (£2 neu £3) am vordaith tri neu bedwar diwrnod, gyda chyvleusderau eithav cysurus a purion bwyd, ond vod y bwyd hwnw yn un anghynevin i Brydeiniaid. Yr anghyvleusdra mwyav yw anghysondeb y dyddiau hwylio o Buenos Ayres, a mwy na hyny ansicrwydd