Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/227

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Atodiad.

CERDD HELA WLADVAOL,

wnaed gan un o'r Vintai Gyntav i bortreadu aviaeth hela y cyvnod hwnw.

Ysgweirod Seisnig welsom ni'n hela, A'r Cymry'n capio ac yn capela; Y Sais mawr ei lais gyda'i gŵn a'i varch, A'r Cymro gwep lwyd, prin vwyd, a di barch; 'Roedd pryvaid Cymru mor egr gysegredig A'r Llanau newydd lle pregethid Seisnig; Os gwelid Cymro ar varch rho'id iddo barch pregethwr, Os gwelid pry' mewn bwthyn 'roedd yno herwheliwr. Ond gwelwch wyr y Wladva yn hwylio am yr hela, Yn Gymry bob copa, Yn marchog ar gefylau, a'u milgwn wrth eu sodlau- Rhydd-ddalwyr Patagonia ! Frwyni plethedig, spardynau duriedig, A chwip i wneud ei hol ; Y gwely o danodd, yr enllyn oddiarnodd, A'r llestri tùn tu ol; A thorch o lasso, lle bydd cig, gobeithio, Yn bynau yn d'od yn ol. TREITHGANU.