Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyda cynyrch y gwerthiant hwnw yr adeiladwyd dinas rwysgfawr La Plata. Ve ddeallir, vel yna, mai oddiwrth y ddinas henav a phenav y cymerth y Dalaeth vawr ei henw: ond dealler eto vod tervynau, neu finiau y briv ddinas vel y maent yn awr, yn cynwys y maes—drevi cylchynol, nes vod yr oll yn gwneud priv ddinas eang—a'r cyvan dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth Genedlaethol, megys ag y mae Washington a'i chylchynion dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth yr Unol Daleithau.

IV.

CYN SYLVAENU'R WLADVA.

Megys llwyd—oleuni cyn toro'r wawr, hwyrach y bydd y detholion canlynol o govianau'r cyvnod boreu yn ddyddorol, vel arweiniad i mewn i'r Stori ddilynol:

Llanymawddwy, Mawrth 12, 1862.

Rhyvedd y camgymeriad a vu rhyngom: ac eto nid yw y cynllun yn eglur iawn i mi. Beth yw yr aelodaeth y soniwch am dani vel un a roddir i bwy bynag gyvrano haner coron ac uchod? Pa vraint neu elw a berthyn iddi os yw y cyvaneddwyr i gael tir am ddim ? Dywedwch hefyd y dychwelir pob rhodd, mewn arian neu dir yn y Wladva. A roddir y tir yma i rai na vyddont yno i'w breswylio Er engraift, pe bawn i yn cyvranu £10, a allwn i gael tir am danynt heb vod yno i gyvaneddu? Pa vaint a roid am £10? Rhaid i mi gyvaddev vy mod wedi sylwi gyda dyddordeb ar y symudiad o'i gychwyniad hyd yma. Ar y dechreu yr oeddwn yn ovni vod tuedd ynddo i hudo dynion i adael yr hen wlad; ac o'r herwydd yr oeddwn yn barod i'w wrthwynebu. Ond yr wyv yn canvod yn awr mai nid dyna ddiben y gymdeithas, eithr yn unig er trevnu cartrev cyvanedd i wasgaredigion Gomer, y rhai sydd wedi gadael eu gwlad, neu a vuasent yn ei gadael i vyned i wledydd eraill. Yn y golygiad yna y mae genyv awydd i wneuthur yr hyn a allav er ei hyrwyddo. Beth pe cymerwn i £10 neu £15, a oes modd i mi berchenogi darn o dir yn y Wladva yn vy enw vy hun, ond iddo vod yn ddarostyngedig i lywyddiaeth y gymdeithas ymhob dim ond ei werthiad? Chwi a welwch nad oes arnav eisieu cyvryw bron ond mewn enw. Gallwch chwerthin am ben y fansi hon, ond fansi ydyw sydd rywsut neu gilydd wedi cael lle yn vy mhenglog. Pe rhoddwn £20 bob blwyddyn am 5 mlynedd i'r gymdeithas, a allwn ni ddim cael darn o dir yn ei chysgod?AB ITHEL.

Y LLYDAWIAID A'R WLADVA.

Vangirard, Paris, Ebrill 21, 1864.

Darllenais mewn newyddur Frengig vwy na dwy vlynedd yn ol, vod mintai o Gymry gwladgarol wedi pendervynu sevydlu Gwladva