Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/230

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ADRODD.- (Parhad).
Y cŵn sy'n anodd codi-
Rhaid cicio rhei'ny o'r gwely ;
Dylyvant ên, estynant goes,-
Mae'n groes i voesau helgi.
Bwrir yn awr i'r briwvwyd ,
Prysurir dros voreuvwyd ;
Llosgi y savn wrth lyncu pob davn ,
A thagu ar lavn o gigvwyd.
Cyvrwyir y cefylau,
'E gesglir yr holl daclau ;
Mae eisieu nos yn eisieu dydd ,
Vel na vudd ddivudd bwysau.
TREITHGANU .
Ar ol i'r mygwyr danio eu boreuol bib,
A chyn i'r haul gychwyn ar ei ddyddiol wib,
Wele ni bawb ar gevn ei gefyl, &c.
ADRODD .
'Nawr rhaid dewis mayor- domo,
Nodi tervyn i'r puntero ;
Gyru'r nesav ar ol hwnw,
A nesav, nesav, o vewn galw :
Yn y man dyrch mwg yn arwydd ,
A phawb a droant yn gyvarwydd.
Ac wele'r rheng yn awr yn symud
Vel ' sgubell, nad oes vodd ochelyd :
Syllu, crafu, llygadrythu ,
Gwylio'r cŵn pan vo'nt yn sawru,
A hai ! dacw gwrs.