Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/231

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ADRODD.
Ar ol rhoi'r gwaed a'r tuvewnolion brwd
I wanc y cŵn, vel rhan eu hysbail hwy,
A rhwymo'r pryv yn dyn tu ol i'r cyvrwy
Rhaid brysio i'r rheng i lanw i vynu'r adwy.

YR HELGAN.

Ho! estrys vaglog bluog sydd genym 'nawr ar hynt,
Yn estyn gwddv i redeg, yn llywio o vlaen y gwynt ;
Mae'r cŵn yn llinyn ar ei hol, ac wrth ei chwt yn awr :
Ha ! dyna dro gan Heini vach! hai 'rwan! hwi cŵn mawr.
Mae'n troi a throsi ol a blaen-a dacw hi i lawr.

ADRODD.
Darnio estrys yn hyforddus
Sydd gyvrinach gywrain gelvau;
Sypio'r holl esgeiriau baglog,
Gwneuthur pwn o'r gwd
o'r gwddv a'r coesau,
Yna bwrw'r ddeuben hylaw
Draws y crwper oll yn gryno-
Neidio i'r cyvrwy, yna tithian,
Nes daw pry' i'r golwg eto.