Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Patagonia, i'r bwriad o gadw yno yn vwy rhydd a diogel eu nodweddion cenedlaethol a'u moesau, a devnyddio yno yn unig y Gymraeg. Yr oedd y vath newydd yn angerddol ddyddorol i mi, a pharodd hevyd gydymdeimlad dwvn ymhlith aelodau y Brueunez Breiz (Brodoriaeth Llydaw)—cymdeithas wladgarol a llenorol ar yr hon y mae'r Viscount Villemarque yn llywydd. Pan glywais am y peth gyntav ymholais gyda'r Parch James Williams, gweinidog Cymreig yn Quimper, ond ni fu'm haws. Y dyddiau hyn cevais air oddiwrth vy nghyvaill Llallawg, yn vy hysbysu vod mintai gyntav o ymvudwyr i hwylio cyn bo hir. Gan hyny yr wyv yn brysio danvon iddynt drwoch chwi ychydig eiriau o lon—gyfarchiad yn enw Brawdoliaeth Llydaw, cyn yr ehedo'r cychiad cyntav hwn i'w bro newydd: taw nid ydym wedi anghovio yn Llydaw "Mai eich tadau, tadau ein tadau—ma hoch tado, tado hon tado; Ac eich mamau, mamau ein mamau—hag hoc'h mamo, mamo hon mamo; ac y mae ynom ddawr calon ymhob peth perthynol i "had Bretoned tre—mor," ys dywedwn ni. Mae y vrawdoliaeth er's llawer o amser wedi meddwl mai dymunol vuasai i'n cyf—gened! gyfredin ni y Celtiaid,—y gover (overflow) ohonynt, ymgasglu ynghyd mewn rhyw wlad wag gyvaddas, yn hytrach na chwalu eu hunain dros yr Unol Daleithau, Awstralia, &c., a chadw yno ein neillduolion goreu ni. Credwn y gallant yn Patagonia ddilyn eu tueddion cenedlaethol, dadblygu eu cyneddvau, a choledd eu hiaith anwyl heb orthrech na pherygl o ymgolli. Gwell genym pe gallasech vod yn anibynol oddiwrth unrhyw wladwriaeth; eithr gallwn ddygymod hyd nod ped elai y sevydlwyr yn ddibynol iawn ar Archentina, yn hytrach na chwalu a di—genedlaethu gover y wehelyth Geltaidd. Mae'n debyg vod yn y byd lawer man ffrwythlonach na Patagonia, ond nid oes un man arall y gwn i am dano lle gall yr ymvudwyr Cymreig ymsevydlu yn Wladva gyda'u gilydd, a digon o dir gwag heb ei veddianu gan bobl wareiddiedig. Y mae rhaid chwalu ein cenedl ni, oblegid gyvynged ein lle; ond da vyddai cael ryw van o'r ddaear i grynhoi y Celtiaid, ac yno ddangos i'r cenedloedd eraill beth vedr ein Cenedl wneud. Hyd yn hyn nid yw y Llydawiaid wedi dangos nemawr duedd ymvudo, a hofem eu cadw felly. Ond os daw y dydd a'r duedd iddynt newid eu gwlad, da vyddai genym eu gweled yn cyvuno eu hadnoddau a'u hegnïon gyda'u brodyr o'r un gwaed a thavod y'Mhatagonia. Felly, hofem wybod, pe delai y cyvryw achlysur, a dderbyniai y Wladva yno aelodau neu vintai o Lydawiaid i'w mynwes yn groesawgar, y rhai mewn byr amser vyddent hyddysg yn y Gymraeg, ac a vyddent yn gyvnerthiad cenedlaethol i'w gilydd: hyd nod pe deuai ofeiriad Catholig neu ddau gyda hwy, hwyrach na thramgwyddid. Da vyddai gan y vrawdoliaeth gael pob hysbysrwydd o dro i dro am rawd a helynt y vintai aif allan ar y vath amcan anrhydeddus, a chael pob hanes a gobeithion sevydliad ydych ar vedr blanu yn Ne Amerig. CHARLES DE GAULLE, Ysg. Brenuez Breuz.

Y dyvyniad dilynol sydd o lythyr preivad y Cadben Sullivan, R.N., newydd iddo vod yn plymio a lleoli arvordir De Amerig,