Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr hyn yr enwogodd ei hun yn vawr. [Gwel Llawlyvr y Wladva.] Cevnogydd selog i Gymdeithas Genadol De Amerig oedd eve, a dilynydd i'r merthyr Allan Gardiner.

Falmouth, Awst 6, 1861.

Yn y lle cyntav, ni ymyrai ein Llywodraeth ni gydag unrhyw wladva ar arvordir Patagonia: byddai o dan Buenos Ayres, yr hon yn unig all hòni hawl i'r wlad. Byddai unrhyw vudiad o'r vath y cyveiriwch ato (Gwladva yn Patagonia) yn wallgovrwydd. Mae yno avon vach (Chupat) oddeutu'r lle a nodwch, ar lanau yr hon y mae porva, ac a wnelai, pe'n ddiogel rhag Indiaid, sevydliad pori; ond nid oes iddi borthladd, a dim ond 6 i 8 tr. o ddwr ynddi. Byddai gwladva yn y van hono yn gynorthwy mawr i ni (y Genadaeth), ond ni pharhai ail vlwyddyn. Byddai yr Indiaid yn sicr o roddi tervyn arni a lladrata y stoc. Os oes mewn gwirionedd bobl o gyvala yn dymuno sevydliad a dalai yn Ne Amerig, gwell iddynt vynd ar lanau yr avon Uruguay, Banda Oriental, lle mae'r Llywodraeth yn cynyg telerau boddhaol iawn: dim trethiant, hunanlywodraeth leol, hinsawdd a gweryd perfaith, cyvleusderau avonydd wrth y drws, tir rhad. Ped elai 10,000 yno gallent yn efeithiol gadw amhleidiaeth pe deuai rhyvel, ac mewn ychydig vlyneddoedd byddent yn ymarverol reoli'r wlad, a planu ein cenedl a'n iaith ni yn y rhanau goreu o Dde Amerig.

—SULLIVAN, R.N.

Y canlyniad cyntav ymarverol i'r waedd am Wladva Gymreig oedd y vintai o Gymry aeth i Rio Grande do Sul, Brasil, yn 1851, am yr hon y dyry ei sylvaenydd (T. B. Phillips), yr adroddiad canlynol:—"Tra yn trigianu yn Manchester daethum i gydnabyddiaeth gyda'r Parch. Owen Jones, D. Rhys Stephens, J. Lloyd, yr Amserau, ac amryw vasnachwyr oedd a chysylltiadau gyda Brasil. Velly, ar ol mordaith i Natal, galwodd ein llong yn Rio de Janeiro, a deallais yno y gellid sevydlu gwladva obeithiol yn Rio Grande. Yn yr Amserau byddai penod ddyddorol dan y penawd " Y Siop," bob wythnos, i'r hon yr ysgrivenwn i, a thynodd y rhai hyny sylw Evans, Nantyglo. Wedi cyraedd Rio Grande yn 1850, trevnais gyda masnachdy mawr Caruthers, Souza & Co., i brynu tiroedd at sevydlu Gwladva Gymreig. [Daeth Souza yn vwy adnabyddus wedyn vel Barwn Mauá.] Talwn i y bedwaredd ran vy hunan, a threvnais ar i'r masnachdy dalu cludiad yr ymvudwyr cyntav. Rhwng 1851—3 cyrhaeddodd rhyw 100, gan vwyav o ardaloedd Nantyglo, Bryn mawr, ac eraill o Von a Dinbych—hen gydnabod, J. Roberts, Mersey View, Iiverpool. Ad—dalodd yr ymvudwyr hyny yn y màn gost eu cludiad, ond nid costau eu byw am agos i ddwy vlynedd, yr hyn vu golled drom i mi. Aeth y sevydliad yn vethiant tua diwedd 1854, am (1) mai coedwigoedd oedd y lle, a'r bobl yn anghyvarwydd, (2) am vod gwasanaeth