Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

caethion (Brasil y pryd hwnw) yn gwneud gwasanaeth dynion gwynion yn amharchus; (3) drwy ddarganvyddiad glo yn Pelotas, ac velly alwad am waith i'r glowyr oedd yn y sevydliad. Enw y wladva oedd Nova Cambria, ac y mae heddyw yn sevydliad Ellmynig llwyddianus. Mae eto yn aros ychydig o'r sevydlwyr ieuainc yn y gloveydd hyny a Pelotas—y rhan vwyav o'r hen rai dan y briddell, a'r sylvaenwr gwreiddiol yn awr yn y Wladva, yn llawn fydd yn nyvodol yr Hen Genedl, y rhai vel y cred eve ddygwyd yma yn arbenig gan Dduw, i'r amcan o adsylvaenu Cenedlaeth Gymreig newydd."

Pelotas, Rio Grande, Tach. 3, 1863.

Am ein cydwladwyr sydd tua Porto Alegre, maent yn awyddus i vyned i Patagonia, gan ddanvon atav yn barhaus ar i mi eu harwain yno. Ond doethach, debygav, oedd iddynt aros nes y ceir sicrwydd vod y vintai gyntav wedi cychwyn o Liverpool: oblegid ped elent, a gorvod aros yno eu hunain dalm cyn y delai'r vintai atynt, byddent yn debyg o ddigaloni a chwalu. Rhaid trin cenedlaetholdeb y bobl gyda pharch a goval a phwyll. Pan hwylio y vintai gyntav, hysbyswch hyny i ni gynted y galloch, ac yna ve drevnwn ninau i'ch cyvarvod yn New Bay. Ond bydd raid i ni alw yn Buenos Ayres ar y ffordd i lawr i gymeryd lluniaeth a rheidiau ar y bwrdd —yr hadyd, coed adeiladu, arvau, &c., y trevnir am danynt yn y cytundeb gyda'r Llywodraeth Arianin. Dylem gael awdurdodiad oddiwrth eich pwyllgor chwi i gael y pethau yna. Gwell vyddai danvon yr ymvudwyr yn vinteioedd bychain, y naill ar ol y llall, vel y calonogent eu gilydd. Cyngorem hevyd ar i gwmni cryv gael ei furvio o bobl ddylanwadol, gyda rhaneion o £5 at brynu haner dwsin o longau a dadblygu y lle a'i vasnach, ac i'r elw vyned i gynorthwyo tlodion Cymru dd'od i'r Wladva, a thrwy hyny noddi a meithrin y genedlaetholdeb. Wrth ystyried vod niver y Cymry, bellach, yn ddwy viliwn, debygav vi mai nid peth anhawdd vyddai manteisio ar pen. 9 o'r cytundeb i roi 20,000 o drigolion yno, vel ag i vod yn dalaeth o'r Weriniaeth Arianin, ac velly roi cnewyllyn o'r cyf Celtig ar sylvaen gadarn yno. Rhodder i'r ymvudwyr ddigonedd o dir yno—500 erw o leiav i bob pen tevlu.

T. B. PHILLIPS.

Yn 1867, pendervynodd un o'r teuluoedd Cymreig aethent i'r Brasil, ar ol deall vod y Wladva Gymreig mewn gwirionedd wedi cychwyn, yr elent hwythau drwy dew a theneu yno atynt. Yr oedd hyny yn amser yr ymblaid a'r chwalva. Daethant i ddechreu i Patagones; yna aethant i vynu tua'r Gwardia i vugeila; ond yn ol drachevn i Viedma; a phan gavodd L. J. long gan y Llywodraeth i vyned a gwartheg i'r Wladva achubodd y teulu hwnw o wyth enaid y cyvle i vyn'd ynddi i'w cyrchvan; ac yno y maent hwy a'u gwehelyth vyth, oddigerth yr hen vam ddewr a'u harweiniodd yno ac a hunodd yno yn ddiweddar.