Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Delai yr un waedd o Awstralia, vel hyn:—

Forest Creek, Gorf. 28, 1862.

Amaethwyr Cymru, cymerwch air y cyngor am Awstralia—byddai well i chwi ymhob modd ymuno yn y symudiad (Gwladvaol). Yn y Wladva Gymreig bydd gwell calon ynoch i blanu ac adeiladu: byddwch yn govalu vod y ty yn gadarn, ac wrth blanu gwinllan a gwinwydden byddwch yn gwybod mai eiddo i chwi a'ch cenedl vydd hi, ac y bydd eich plant yn cael bwyta o'u frwyth. Byddwch yn teimlo mwy o ddyddordeb yn niwylliad y ddaear, gwelliantau celvyddyd, a chynydd masnach nag a deimlech vyth mewn estron wlad. Gwyddech mai eich gwlad chwi ydyw, ac velly bydd eich llavur yn bleser. (2.) Bydd yn well mewn pethau moesol a chrevyddol. Cewch ddysgu eich plant yn yr holl gelvau a gwyddonau yn yr iaith vyddwch chwi a hwythau yn ddeall. Bydd yr holl addysg gyvrenir yno yn ddiau yn Gymraeg. Yna, gan vod yno ddigonedd o dir da, am bris isel, ewch yno, neu yn hytrach, dowch yno, yn llu mawr, oblegid mewn undeb mae nerth. E. P. JONES.

Forest Creek, Medi 3, 1863.

Yr ydym yn mawr lawenhau oblegid yr ymdrech glodvawr wneir i sevydlu Gwladva Gymreig. Mawr ei hangen sydd, a hynu a wyddom ni yn dda yn y wlad hon. Mae yma amryw Gymry wedi d'od yn ddiweddar; ond nig gwn beth ddaw ohonynt, druain. Mae'n ddigon tywyll ar y rhai sydd yma er's amser, ac yn gwybod dull a manteision y wlad; ond sut y bydd ar ddyeithriaid, nis gwn. Yr ydych y 'Nghymru yn tybied vod Awstralia yn parhau yr un o 1an aur a manteision bywoliaeth, a llawer yn rhuthro dros y weilgi yn y syniad yna. Ond gallav ddweud nad oes yma'n awr vawr iawn mwy o vanteision byw nag sydd yna. Hwyrach vod yma lai o drethi, er vod y rheiny yn cynyddu bob blwyddyn; ac os gosodir clwt o babell lian yn rhywle, buan y cewch y swyddog yn govyn y dreth. Diau vod yn y wlad hon viloedd o Gymry; ond y maent mor wasgarog vel na ellir cadw undeb rhyngddynt. Yn Forest Creek a Ballarat yn unig y mae llewyrch ar y cyrddau Cymreig. Mae pawb ohonom yn edrych ar ein cyvathrach genedlaethol hon vel peth tra gwerthfawr, ac yn govidio nas gall pawb o'n cydgenedl ei vwynhau. WM. BENJAMIN.

Yn y gwres hwn ymunodd 30 o Gymry i brynu llong newydd, 95 tunell, yn yr hon y bwriadent unioni'n syth i'r Wladva, eithr ni ddaeth ond un oddiyno—Evan E. Jones, ger Wyddgrug.