Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V.

Y CYFRAWD GWLADVAOL YN YR UNOL DALEITHAU, 1851—6.

Y mynegiad furviol cyntaf sydd ar glawr am symudiad i gael Gwladva Gymreig ydyw yr adroddiad am gyvarvod o Gymry yn Philadelphia, y cyveiriwyd ato uchod. Yna y mae dysbaid hyd 1854, pan y danvonwyd y llythyr canlynol at Mr. Griffith, Chicago:—

"Mae genym i'ch hysbysu vod Cymdeithas Wladvaol yn bodoli yn New York, ers tros 30 mlynedd yn ol, dyben pa un yw cael gwlad i'r Cymry ymsevydlu gyda'u gilydd, yn lle gwasgaru vel y maent heddyw, ar hyd a lled y wlad vawr yma. O! na vuasai rhyw gynllun wedi ei drevnu vlyneddoedd yn ol i'r Cymry vyn'd i'r un wlad ac i'r un lle, vel y buasent heddyw yn bobl luosog. Ond yn lle hyny, mae ein dull o ymvudo wedi ein hau dros bedwar parth y byd, i golli am byth fel cenedl ein hiaith a'n henw, gan genedloedd eraill y byd. Ovnwyv vod yr amser wedi pasio am byth i gael Gwladva yn y wlad hon: ond y mae eto wledydd da heb eu meddianu, a llawer mewn rhan. Buom bron a prynu Vancouver Island, gan yr Hudson Bay Co., i wneud gwladva. Dyna Paraguay —yn wlad vawr a frwythlon, ond hynod deneu ei phoblogaeth: byddai cael 20,000 o Gymry yno yn ddigon i vyn'd a phob peth o'u blaen. Hevyd mae Llywodraeth Buenos Ayres, yr hon sydd weriniaeth ar lan La Plata, hynod deneu ei phoblogaeth, ond yn veddianol ar diroedd eang a bras, yn cynyg tiri ni wneud gwladva yn ei thiriogaeth mewn lle o'r enw Bahia Blanca. Mae gohebiaeth yn myned ymlaen yn bresenol â'r Llywodraeth hono am y lle a nodwyd, a disgwyliwn vod mewn sevyllva yn vuan i'ch hysbysu vod gwlad wedi ei chael—hyd hyny, eich mantais yw casglu nerth: ein penderfyniad ni yw peidio rhoddi i vynu nes cyraedd amcan dechreuol ein cymdeithas.

Yn Ebrill 14, 1860, ysgrivenai J. Rees, Williamsburg, N.Y., at Edwin Roberts vel y canlyn:—

Rhy vaith vyddai i mi adrodd am ein holl dravodaeth o amser bwygilydd—pa vodd y bu i ni benodi ar Ynys Vancouver ar lanau Oregon, i wneuthur cychwyniad. A thra yr oeddym yn cynllunio mesurau i'w chael gan yr Hudson Bay Co. y daeth yr hanes am aur California, ag a gludodd ymaith y rhai mwyaf bywiog ac anturiaethus o'n haelodau, ac a gyvnewidiodd sevyllva yr Ynys hono yn hollol tu hwnt i'n cyraedd ni. . . . . Yr oedd cymdeithas wedi ei furvio yn Utica vel mam-gymdeithas, D. Price yn llywydd, ac Edward Jones yn ysgrivenydd; eithr pan ymholais â hwy ymhen talm o amser i wybod beth oeddynt yn wneud gyda'r mudiad, yr ateb gevais oedd, na veddent hwy yno yr un drysorva, ac nad