Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt yn cymeradwyo ein dull ni o vyned ymlaen ; os na ellid cael gwlad heb gynyg llwgr—wobrwyo vel y soniem ni, eu bod yn tori pob cysylltiad â ni, ac yn gwahardd i ni ddevnyddio eu henwau hwynt: nad oeddynt vel swyddogion yn bwriadu gwneud dim i hyrwyddo y symudiad, nac erioed wedi bwriadu, ac vod y gymdeithas yn ymwasgaru! . . . . . Gwnai y llongau sydd yn myned i California ac Awstralia gludo ymvudwyr i Patagonia yn rhad iawn, a'u glanio yn Montevideo neu Maldonado, a digon hawdd cael cludiad oddiyno i Buenos Ayres, a myned oddiyno dros y tir. Dywedwyd wrthyv gan ddinesydd o Buenos Ayres y gwnai'r llywodraeth hono anrheg i ni o amddifyna a porthladd Bahia Blanc (!) ar yr amod i ni atal Indiaid lladronllyd Patagonia rhag dwyn aniveiliaid y cyfiniau. Ond yr wyv vi yn myned ar y dybiaeth mai gwell genym vyddai sevydlu yn nyfrynoedd bras y Paraná neu Paraguay, yn hytrach na myned i unman yr avlonyddid arnom gan Indiaid.

Pan ddechreuwyd cyhoeddi y Drych (newyddur y Cymry yn yr Unol Daleithau), cavwyd cyvrwng hylaw i wyntyllio a thravod y dyhead yno am Wladva Gymreig. Ac am vlwyddi lawer bu y cyfrawd hwnw yn berwi Cymry y Taleithau. Eithr ar ddydd Nadolig 1855 yr ymluniodd y dyhead hwnw i furvio Cymdeithas Wladvaol yn Camptonville, California—T. B. Rees yn llywydd; C. Morgan, is-lywydd; D. P. Edwards, trysorydd; Wm. ap Rees, yn ysgrivenydd. Danvonodd yr ysg. gylchlythyr allan i bob cyveiriad, ac i'r newydduron. Am y tair blynedd dilynol i hyny bu y cyfrawd Gwladvaol yn cerdded ac yn lledu. Sevydlwyd cymdeithasau gwladvaol mewn llawer iawn o'r ardaloedd Cymreig drwy yr Unol Daleithau. Yn 1857 yr oedd gan y vam—gymdeithas yn California drysorva o $2,000, a gwnaethpwyd trevniant cyfredinol i'r amrywiol ganghenau gyduno ar bwyllgor gweinyddol a thrysorva gyfredin—i barhau nes y byddai'r gwladvawyr cyntav wedi cyhoeddi cyvansoddiad gwladol ac ethol swyddogion mewn fordd reolaidd. Brithid y Drych yn y blyneddau hyny gan grybwyllion am gyrddau Gwladvaol drwy yr U. Daleithau, a chevnogid y mudiad yn galonog gan y newyddur hwnw. Wrth edrych dros feil y Drych yn y dyddiau hyny ceir, ymysg covnodion lawer, y rhai canlynol:

Big Rock, Illinois , Medi 20 , 1857 .
Bethel, Wisconsin, $120 yn y cwrdd cyntav.
Pittson Ferry, Mawrth 26, 1857.
Vermont, Meh. 13, 1858, $ 100.
Webster Hill, Hydrev 3, 1857.
Brownville, Maine, Chwev. 26 , 1858 .
Cwmbwrla, Silver Creek, Mawrth 27, 1858.

[Y_cadeirydd , J. Williams, Bryn eryr, "wedi cychwyn tua Patagonia, ar ei draul ei hun, Chwev. 5, 1858."]