Racine, Wis., Mawrth, 1858.
Penuel, Oshkosh, Mawrth 5, 1857.
Middle Granville. Ion. 21, 8858.
Evrog Newydd, Chwev. 20, 1858.
[Dr. W. Roberts yn gadeirydd: Pendervynwyd: Ein bod yn cymeradwyo bwriad a hunanymwadiad M. D. Jones i ddyvod drosodd i hyrwyddo y symudiad Gwladvaol.]
Yn y cyvwng hwn y mae enwau brodyr enwog Llanbrynmair yn d'od i'r wyneb. Yn 1856 7 yr hwyliodd G. R., ac wedi hyny S.R., gyda'r bwriad o gael sevydliad neu gym'dogaeth Gymreig yn Tennessee. Eithr ys truain vuont i gychwyn eu hanturiaeth ar vin tymhestl ovnadwy y Rhyvel Gartrevol.
Yn y Drych am Medi 4, 1858, cyhoeddwyd vel erthygl arweiniol yr hyn a ganlyn: "Glaniad y Parch M. D. Jones, Bala. Mae ein cydwladwr aiddgar, y Parch M. D. Jones, gwron y Wladva Gymreig, wedi tirio yn y ddinas hon Awst 30, 1858. Hysbyswyd ei amcan eisoes, yr hyn yw, furvio mintai ymchwiliadol i vyned i ddechreu ymsevydlu y'Mhatagonia, vel y gallo wneud lle cymhwys i'r Cymry ymvudo iddo. Mae Mr. Jones yn ddyn uchel ei gymeriad a'i ddylanwad, ac yn teilyngu y derbyniad gwresocav gan ei genedl ymhob man. Yr ydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn yr ymdrech genedlaethol. Mae gan Mr. Jones luaws o anerchiadau yn ei veddiant oddiwrth amryw gymdeithasau yn yr Hen Wlad, yn cyvarch eu brodyr y tu yma i'r Werydd.
Un o'r anerchiadau y cyveirid atynt oedd hon gan Ceiriog:
"Ar eich ymadawiad i America ar y genadwri bwysig o wneuthur ymchwiliad i ansawdd Patagonia, ac i gydweithredu gyda'n brodyr tu draw i'r Werydd gogyver a furvio Gwladva gysurus i'r dosbarth lluosog hwnw o'n cydgenedl sydd yn gorvod ymvudo yn veunyddiol i amryw barthau o'r byd, nis gallwn lai na'ch anerch i amlygu ein cydymdeimlad â'r achos teilwng a bleidir genych, a datgan ein llawenydd vod i ni gydwladwr o'ch sevyllva a'ch medr chwi sydd yn barod i gychwyn oddiwrthym ar y genadwri ganmoladwy hon, ac vod genym voneddwr mor ymddiriedus i gynrychioli Cymry Prydain ynghynhadledd y Wladva Gymreig sydd i'w chynal yn Evrog Newydd yn ystod y vlwyddyn hon.—Arwyddwyd : John Hughes (Ceiriog), John Mason, Thomas Evans."
Ve welir mai yn 1858 yr aeth M. D. Jones i'r Unol Daleithau ar ei neges Wladvaol, a chavodd ei genadwri dderbyniad brwdvrydig yn yr holl sevydliadau Cymreig. Ond ymddengys na pharhaodd y brwdvrydedd Cymreig hwnw yn hir iawn—evallai am mai ysglodion tlodi oedd ei gynud, neu am nad oedd weledigaeth