Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglur am y dull a'r modd i weithredu, neu am ddarvod ymranu ac ymbleidio. Gellid casglu eglurhadau vel yna oddiwrth y Drych yn y blwyddi hyny, a chylchlythyrau W. B. Jones a J. M. Jones, yn cynyg am sevydlu "Cambria Newydd" yn Missouri ar diroedd Eli Thyer.

Y covnod credadwy nesav i hyny ydoedd cyvarvod ymadawiad Edwyn Roberts, Tach. 10, 1860, yn cychwyn ei hunan am Batagonia. Ebai'r Drych: "Mae pleidwyr y symudiad gwladvaol yn prysur berfeithio eu cynlluniau er dwyn y peth i weithrediad. Daeth Edwyn Roberts i'n swyddva tra "ar ei fordd i Patagonia;" ond wedi cyraedd New York, cavodd ei berswadio i vyned i Gymru i wneud ei ran yno dros yr achos: dywedid mai folineb oedd iddo veddwl myned ei hunan i wlad anial Patagonia, a hwyliodd yn y 'City of Manchester.' Ymddengys yn ddyn ieuanc calonog a hynod bendervynol."

Wedi yr uchod nid oes genym govnodion am y cyfrawd Gwladvaol yn yr U. Daleithau, hyd lythyr Eleazer Jones.

22, Broadway, N, Y., Ion. 6, 1865.

Aethum at yr ychydig gyveillion sydd yn y ddinas yn favriol i'r symudiad, ac wedi llawn ystyriaeth, y pendervyniad unvrydol yw— vod amgylchiadau y wlad hon yn bresenol mewn ystyr arianol a gwleidyddol yn gyvryw ag sydd yn ei gwneud yn amhosibl i ni vod o un cymorth i'r symudiad. Nid oes yn ein plith lawer yn veddianol ar gyvoeth, vel ag i allu cymeryd bonds i sicrhau echwyn. Hevyd y mae y telerau a dderbyniasoch mor amwys vel nas gallwn yn bresenol, heb beryglu interest y dyvodol, eu cyhoeddi a'u hargymell ar y wlad, am nad oes ynddynt ddim yn gymelliadol i rai sydd yn gwybod manteision yr Homstead Law yma. Credu yr ydym mai distawrwydd vyddai oreu nes y bydd rhyw gyvnewidiad ar yr amgylchiadau. Mae y savle gymer y wasg Gymreig oll o'r bron gyda golwg ar y rhyvel, wedi chwerwi miloedd lawer tuag at Gymry Prydain, a gwnai yr eiddigedd hwnw niwaid i'r mudiad yn awr pe gwthid y peth i sylw. Cevais gryn ymddiddan ddoe gyda Berwyn ar y mater. Anvonais ysgriv i'r Drych i hysbysu beth sy'n myn'd yn mlaen, a hysbysu yr amser i'r vintai gyntav gychwyn, &c., ond heb gyveirio at yr echwyn a phethau sydd amhosibl eu gwneud o'r ochr hyn yn awr, rhag peri i elynion y symudiad watwor a niweidio yr amcan. ELEAZER JONES.

Ve welir wrth ddyddiad y llythyr blaenorol vod hyn ar vin ymadawiad y Vintai Gyntav—a gwell hwyrach gwneud bwlch yn y van yma i roi ar glawr rai cyveiriadau geidw linynau hanes y cyfrawd yn yr Unol Daleithau yn y cyraedd. Covier eto mai yn y cyvwng hwn y bu'r Rhyvel Gartrevol vawr, ac yr andwywyd gobeithion ac amgylchiadau S. R. druan—vel llu mawr eraill o Gymry aiddgar yr Unol Daleithau. Eithr ni lwyr ddifoddwyd y tân. Yn union wedi i'r Vintai Gyntav gychwyn, ac i Gymry'r