Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Taleithau ymysgwyd peth o'u syvrdandod, y mae hanes am ddau ohonynt, beth bynag, yn cymeryd i vynu eu pac i ddilyn y Vintai drwy bob anhawsderau—ac yr oedd y rhai hyny yn lleng y pryd hwn—sev D. Williams, Durhamville, Oneida, a Hugh J. Hughes, Wisconsin. Bu D. W. wedi hyny ar ymweliad i'w hen vro, yn 1873—4, a dychwelodd i'r Wladva at ei deulu yn y Luzerne," 1876, lle y gorfenodd ei yrva rai blyneddau yn ol. Ymddyrysodd y llall (H. J. H.) yn y chwalva vu ar y Wladva yn 1867, ac yr aeth rhai o'r gwladvawyr i Santa Fe, ac yntau gyda hwy. Y mae dau enw arall o Gymry yr Unol Daleithau yn perthyn i'r cyvnod hwn, sev Edwyn Roberts a Berwyn. Aethai blaenav yn gydymaith L. J. i barotoi ar gyver y Vintai Gyntav, a'r olav yn un o'r vintai hono vynodd anelu am y Mimosa" o New York yn syth. Wedi hyn y mae dysbaid o saith mlynedd cyn i Gymry'r Taleithau vedru cydio o ddiviiv yn y mudiad gwladvaol, ac y daeth enw D. S. Davies ar y blaen yn y cyfrawd am long Wladvaol.

VI.

Y LLONG "RUSH," O'R UNOL DALEITHAU.

Youngstown, Ohio, Mawrth 23, 1872.

At M. D. Jones. —Llwyddais wedi tri mis o lavur mawr yn yr hyn yr aethum allan o'i herwydd. Prynasom long dda, a'i henw "Rush," 200 tunell register. Gosodasom arni 250 o dunelli yn llwyth i Buenos Ayres, a 29 o ymvudwyr i Patagonia: cludiad ar goel iddynt oll, a chynorthwy o $400 rhwng pedwar teulu at brynu oferynau amaethol cyn cychwyn o New York. Yr oedd y bobl hyn yn bur gevnog mewn pethau rheidiol, aradr a stove i bob teulu, hadau, pladuriau, rhawiau, bwyeill, &c., Capt. James G. Evans yn veistr y llong. Bu J. Mather Jones ar vwrdd y llong yn rhoi ei varn a'i vendith arni, a D. T. Davies, trysorydd y Powis Colony: synent oll weled llong mor dda genym. Yn Mahanoy tanysgrivasant $10,000 at y llong nesav: rhaid i ni gael pedair llong eto, vel y bo un yn cychwyn bob 6 wythnos. Mae genym enwau 200 i 300 sydd am ymvudo y tro nesav. Buasai y cyfarwyddwyr a minau yn uchel iawn ein llawenydd yn awr am y llwyddiant a'r rhagolygon, oni buasai am eich llythyr diweddav yn hysbysu nad oes genych vreinlen ar Patagonia! Rhaid vod rhyw dywyllwch mawr ar y peth, onide paham na vuasid yn ein wynebu mewn llythyr. Wedi son cymaint am vreinlen, a'r vreinlen, a'r vreinlen o hyd, a chwithau heb gael un erioed, onid creulon ynoch oedd terfynu eich llythyr heb egluro i ni wir sevyllva y Wladva a'r Cwmni. Mae genym ymddiried mawr yn uniondeb eich amcanion, er vy mod wedi credu er's misoedd nad ydych yn business men o gwbl. D. S. DAVIES.