Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi ail gychwyn mor addawol a hynyna, ac i'r "Rush ". gyraedd Buenos Ayres yn llwyddianns, dilynodd cyvres o anfodion anaele iddi hi a'r mudiad. Wedi dadlwytho y llong, ac iddi alw yn Montevideo, anesmwythodd rhai o'r ymvudwyr y cymerasid cymaint traferth erddynt ; a phan gawsant gyda hyny storm vlin oddiyno i lawr, vel y bu raid troi i M. Video drachevn,

MYNODD y vintai lanio, a buan iawn y chwalwyd ac y llyngewyd hwy, vel nad aeth yr un ohonynt vyth i'r Wladva. Medrodd rhai ohonynt eu fordd i Paysandu, gweriniaeth Uruguay, a cheisiodd L. J., yn 1873, grynhoi y gweddill i vyned gydag ef i'r Wladva ond llwyr gollwyd golwg arnynt. Wedi adgyweirio