Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tipyn aeth y "Rush" ymlaen i'r Wladva, ac yn deithwyr arni Ed. Jones (Rhandir), J. Griffith (Hendre veinws), a T. B. Phillips, Brasil. Ar ol glanio y rhai hyny, a gweled San José, aeth y llong i Rio Negro, ac oddiyno yn y man i Buenos Ayres, lle y gwerthwyd hi gan y prwywr benodasid gan y perchenogion, Stuart Barnes.

Buenos Ayres, Rhag. 30, 1872.

At L. J.—Vel cynrychiolydd W. Jeremiah a'r Cwmni Ymvudol, dymunol vyddai genym gael pob hysbysrwydd am y Wladva—awgrymiadau a rhagolygon. Wedi holi pawb a allav yma, yr wyv yn casglu (1) Er gwaethav eich siomedigaethau ac anhawsderau vod sevyllva y Wladva yn llewyrchus; 2) Mai difyg cymundeb rheolaidd gyda Buenos Ayres yw eich priv anhawsder. Yr wyv yn deall hevyd nad ydych yn llwyr sicr o barth breinlen dir gan y Llywodraeth. Yr ydych yn deall vod y cwmni wedi rhoddi imi lawn allu i weithredu drosto gyda'r "Rush," yr hon vwriedir gadw ar y glanau hyny i gadw cydiad masnachol, gan mai priv amcan y Cwmni yw hyny, a chyvlenwi y Wladva gyda phob nwyddau y bo alw am danynt. Govynant i mi hevyd eu cynorthwyo i gael breinlen briodol oddiwrth y Llywodraeth—am y tir sydd genych yn awr neu diroedd eraill dymunolach; ac yna, wedi cael hyny, y prynid llong vwy yn ebrwydd i gario ymvudwyr o New York i'r Wladva. . . . . A yw eich lle presenol yn voddhaol i chwi, neu a vynech chwi newid neu estyn eich terfynau? Byddwch vanwl i ddynodi eich finiau presenol, neu y rhai ddymunech,—niver yr erwau, &c.STUART BARNES.

Yn y dyvyniad canlynol o lythyr L. J. at W. ap Rees, New York, a ysgrivenwyd o Buenos Ayres, Ebrill 9, 1872, ceir cyveiriadau at yr un adegau o'r hanes :

Cyn hyn bydd S. Barnes wedi rhoi ar ddeall i chwi sevyllva pethau gyda'r 'Rush,' ac ovn sydd arnav y bydd ei thynged yn ovid i lawer ohonoch. Yn vasnachol, hwyrach nad oedd well llwybr na'r un gymerodd S. Barnes, wedi iddo ddeall anaddasrwydd y cabden i'r vath savle, ond y mae hyny wedi llethu y disgwylion Gwladvaol wrth y llong. Nid oedd ddisgwyl i'r prwywr vyned o'i fordd er mwyn y Wladva—er cymaint wnaed ohyny. Yr wyv newydd ddanvon cynygiad i ymvudwyr y 'Rush' sydd yn Paysandu i ddod i lawr atom yn ddigost os mynant, ac os gallant ymryddhau o'r man y maent: nis gwn ddim yn eu cylch ond y llythyr ddanvonodd tri ohonynt at y Consul Amerigaidd yma, a'r hwn, wrth gwrs, ddangoswyd i mi. Yr oeddwn wedi meddwl myn'd i'w gwel'd, ond y mae anhawsder quarantine yn vy lluddias. Aeth y Rush' yn aberth i'r un anaeddvedrwydd trevniadau ag yr aeth y 'Myvanwy.' Ond waeth heb ddànod wedi i'r peth basio. Anavus o beth oedd cyhoeddiadroddiad' (bondigrybwyll) y cabden pan aeth