Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mrs. Jeremiah adrev. Nis gellwch chwi yna ddeall ein anhawsderau ni, ond gellwch gasglu y gwnaethid niwed mawr i'r Wladva drwy ddangos mor gynhenus ac ymranol y darlunid ni yn y stori hono. Gall y Wladva wenu uwch ebychion o eiddigedd neu valais gyfredin; ond pan athrodir ni yn enw ein cyveillion goreu, vel y gwnaeth y cabden hwn yn eich enwau chwi, gan chwythu dwli yma ac anwir acw, mae'n sicr o wneud rhyw gymaint o niwaid yn ol ei vedr a'i gyvleusderau. Mae llawer dyryswch wedi bod eisoes ar y Wladva, oblegid ymyriadau ac adroddiadau gwyr dyvod.' Eich busnes chwi yw y Rush' a'i helynt, ond da chwi, peidiwch ymravaelio ynghylch y Wladva. Yr ydych yn gwneud camgymeriadau dybryd yn eich'eglurhadau,' ac nid oes wybod i beth yr arweiniant. Problem anhawdd yw y Wladva: byddwch daeog yn ei chylch yn hytrach nag yn llevarog, a choviwch vod ysgrivenydd hyn o awgrymion wedi bod drwy yr holl ryvel, derbyn mil o ddyrnodion gan gâr a gelyn, ond wedi gweled y Wladva'n llwyddo yn y diwedd. Nid oes neb yn edmygu mwy na myvi ar eich ymroad a'ch egni Gwladvaol—er y gellwch dybied, oddiwrth y sylwadau oerion, celyd, blaenorol vod vy nheimlad wedi ei haiarneiddio: hwyrach ei vod, o ran hyny, ond mae vy mhroviad wedi blaenllymu vy marn yn viniog, vel yr hyderav na raid i L. J. wneuthur yr un diheiriad pellach."

Yngoleuni proviad y blyneddoedd dilynol mae'n hawdd, hwyrach, weled nad oedd y Wladva, na'r Weriniaeth, yn aeddved i vanteisio ar y cais anturus hwn wnaeth Cymry yr Unol Daleithau. Eithr ni ddigalonodd hyrwyddwyr Amerig. aidd y mudiad wedi y methiant hwn, mwy nag y digalonodd eu hynaviaid wedi trychineb Bull's Run. Aeth D. S. Davies eilwaith ar y groesgad. Erbyn hyny cynorthwyid ev hevyd gan gynrychiolydd proviadol o'r Wladva (A. Mathews): a chyn hir iawn noviwyd llong a mintai arall, i wneud “ail gynyg Cymro," sev yr "Electric Spark," Capt. Rogers—i vyned yn syth o New York i'r Wladva. Yn y llong hono pendervynodd D. S. D. vyned hevyd, a gwel'd y Wladva drosto'i hun. Trevnasid y llong a'r vintai hono yn gyd—gyvranol, gan vod agos yr oll o'r ymvudwyr yn bobl led gevnog, rhai ohonynt yn perchen celvi a devnyddiau lawer, addas i sevydliad newydd. Ysywaeth eto! rhedodd y llong hono ar draethell ar arvordir Brasil. Nichollwyd bywydau neb, eithr bu un vam varw o ddychryn ymhen dyddiau; ond am yr eiddo a'r celvi, gasglesid drwy gymaint goval a gobeithion, aeth y rhai hyny agos oll yn aberth i'r mor a'r amgylchiadau trallodus. Golygva dorcalonus yn ddiau ydoedd y vintai ymvudwyr truain hyny ar draeth poeth Brasil, a'u holl glud—gelvi anwyl ar chwal ac ar gladd—y brodorion duon, pan ddaethant i'r van, yn varbariaid hollol iddynt o ran iaith a golwg. Bu