Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raid traws-longu y vintai a'u clud ddwy waith i gyraedd Rio Janeiro; ac yno cavwyd y caredigrwydd Prydeinig arverol i rai trallodus, vel ag i'w hyrwyddo i ben y daith yn Buenos Ayres ; ond ymhell iawn o vod mor gevnog a phan yn cychwyn. Ynogwynvyd y son ! cwrddasant â'r vintai o'r Hen Wlad oedd yn myn'd i'r Wladva, ac a gychwynasent o Gymru tua'r un adeg ag y delai'r lleill o New York. Hono oedd "mintai Mathews a Lloyd Jones"—yr ail gychwyn i'r Wladva wedi y disdyıl hir o naw mlynedd.

Gwnaeth Cymry gwladgarol yr U. Daleithau drydydd cynyg drachevn am long i'r Wladva, a llwyddasant yn rhyvedd. Drwy holl drychineb y "Spark" glynodd Capt. Rogers gyda'r vintai: a phan gyrhaeddasant y Wladva, a gwel'd y lle a'r bobl, pendervynodd eve vyned yn ol at Gymry Amerig i ddweud wrthynt y weledigaeth gawsai, a'u cymhell i wneud trydydd cynyg am long i'r Wladva. Erbyn hyn yr oedd D. W. Oneida, a vuasai yn y Wladva rai blyneddoedd, yn barod i ddychwel at ei deulu yno; a chan ei vod yn wr o voddion tavlodd ei goelbren gyda Capt. Rogers i gynull mintai. Prynwyd velly y llong "Luzerne": llwythwyd hi o gelvi a bwyd; a dodwyd ynddi vintai gryno o ymvudwyr i vyned ar eu hunion i'r Wladva. Cyrhaeddasant yn ddiogel wedi hir vordaith—ond o'r braidd, canys darvuasai yr ymborth vel nad oedd ganddynt namyn starch yn vwyd i'r merched pan vwriasant angor y tu allan i'r avon Chupat, ac y cawsant broviad o vara enwog y Wladva. Bu peth anghydwelediad rhyngddynt wedyn ynghylch y llong; ond y diwedd vu ei gwerthu yn Patagones, vel na chavwyd nemawr wasanaeth gan hono eto i'r Wladva.

Bu un cyswllt byr wedi hyny rhwng Cymry yr Unol Daleithau a'r Wladva, sev oedd hyny pan aethai Edwyn Roberts i weled ei hen gartrev a'i gyveillion yn Wisconsin. Diau iddo gael croesaw calon gan ei hen gydnabod, a daeth ei vrawd a'i chwaer a'i phriod ac eraill o'i gydnabod gydag ev i gyrchu am y Wladva. Yr oedd Cymru y pryd hwnw (1875—6) yn verw bwygilydd am y Wladva, ac velly ymunodd mintai Edwyn Roberts yno gydag un o'r minteioedd hyny, a daethent trwy Buenos Ayres i vyned i'r Wladva.