Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII.

CYFRAWD Y MUDIAD GWLADVAOL YN NGHYMRU.

Michael D. Jones y Bala oedd yr enw cyswyn wrth ba un y tyngid i'r Mudiad Gwladvaol y'Nghymru, vel ag yn yr Unol Daleithau. Yr oedd ei savle ev vel privathraw Coleg y Bala, vel llenor gwreiddiol a dysgedig, ac vel gwleidyddwr pybyr, yn gyvaredd dynai sylw pawb ato. Yr Amserau oedd cyvrwng mawr pob ymdravodaeth genedlaethol y dyddiau hyny—y Gyvnewidva Veddyliol i ba un y bwriai Hiraethog, Ieuan Gwyllt, Eleazer Roberts, a phawb oedd lwythog o syniadau eu trysorau i'r bwrdd. Yno, velly, y cwrddodd M. D. Jones, Evans, Nantyglo; S. R., John Mills, Wm. ap Rees, O. J., Manchester; Cadvan Gwynedd, &c., i vynegu eu dyhead am Wladva Gymreig. Wedi ei barotoad athrovaol aethai M. D. Jones am daith drwy Ogledd America dros vlwyddyn neu ddwy, ac yno, ynghyvlwr ei gydgenedl y gwelodd y Weledigaeth Wladvaol daniodd ei enaid, vel hono drydanodd Paul ar y fordd i Damascus. Pan ddychwelodd i Gymru, penodwyd ev yn olynydd i'w dad vel Privathraw Coleg y Bala. Yn 1858 aeth M. D. J. drachevn i'r Unol Daleithiau, i geisio corfori y Mudiad Gwladvaol [gwel pen. 5]. Wedi priodi yn 1859 a chartrevu yn Bodiwan, eve a gynaliodd gyvarvod Gwladvaol yn y Bala—Dr. L. Edwards yn gadeirydd, a Dr. Parry, Simon Jones, Robert Jones, gwlanenwr, &c., ymhlith y cynulliad, o'r hwn y ceir y covnodiad canlynol yn llyvr E. R., tud. 18.

"Nos Wener, Awst 15, 1856, galwodd M. D. Jones gynulliad o gyveillion gwladvaol, i ysgoldy y Methodistiaid, Bala, i osod y Mudiad Gwladvaol ger bron. Sylwodd y cadeirydd vod y cynulliad iddo ef yn ddyeithr, ond wrth ystyried yr amcan mewn golwg tybiai nas gallai neb ddyweyd llai na bod y peth yn ddymunol: yr unig amheuaeth oedd ynghylch posibilrwydd y peth. Yna galwodd ar M. D. Jones i ddarllen yr ohebiaeth dderbyniasai ar y mater, yr hyn a wnaeth, a gwneud ychydig sylwadau eglurhaol arnynt. Parch. J. Parry, golygydd y Gwyddoniadur, a ddywedodd vod y cadeirydd eisoes wedi cyveirio at hanvod y symudiad, sev a ellid cael Gwladva Gymreig Pa sicrwydd oeddys yn veddu y troai yr anturiaeth yn llwyddianus: na vuasai yr un vantais yn cymell cenedloedd ereill yno: neu pe troai yr anturiaeth allan yn vethiant pa sicrwydd oedd y buasai'r Cymry yn sevydlu mewn man yr oedd anvantais yn nglyn ag ev, pryd y gellid cael lle